Teyrngedau i ferch 18 oed ‘garedig, gariadus’ a fu farw mewn gŵyl ar Ynys Môn

Lucy Jones

Mae ffrindiau a chydweithwyr merch 18 oed a fu farw ar ôl argyfwng meddygol yn Llanfaethlu, ar Ynys Môn, wedi rhoi teyrngedau iddi.

Mae ffrindiau Lucy Halpin wedi sefydlu tudalen ar y we i godi arian i helpu ei theulu.

Ar 11 Gorffennaf, dywedodd Heddlu’r Gogledd fod dynes 18 oed wedi marw ar ôl "argyfwng meddygol" mewn gŵyl yn Llanfaethlu, ar Ynys Môn.

Fe aeth y gwasanaethau brys i Ŵyl Tonnau ar Ystâd Carreglwyd tua 01:45 bore dydd Sadwrn.

“Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys, bu farw’r fenyw 18 oed yn ddiweddarach yn yr ysbyty,” meddai Heddlu’r Gogledd.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un annisgwyl tra bo’r ymchwiliadau’n parhau. Mae’r crwner wedi cael gwybod.

Mewn teyrnged ar y wefan codi arian, dywedodd ei ffrindiau: “Rydym ni, ffrindiau Lucy, wedi trefnu'r digwyddiad codi arian hwn i ddangos ein parch at deulu Lucy ar adeg mor anodd; bydd unrhyw gyfraniadau'n mynd yn uniongyrchol at deulu Lucy fel y gallwn roi'r ffarwel gorau iddi, fel y mae hi'n ei haeddu.

"Byddai unrhyw un a oedd yn adnabod Lucy yn gwybod ei bod hi’n garedig, yn ofalgar ac yn ffrind da; roedd pawb o’i chwmpas yn gwybod pa mor ddeallus a doniol oedd hi. 

"Roedd hi’n goleuo pob ystafell yr oedd yn camu i mewn iddi ac yn gwneud i bawb wenu bob tro. 

"Ond yn oriau mân dydd Sadwrn, yn dilyn digwyddiad meddygol yng ngŵyl Tonnau, cafodd ei dwyn oddi arnom yn drasig ac yn rhy fuan; ​​gyda’i holl ddyfodol o’i blaen, byddwn yn ei chario yn ein bywydau gyda chariad, a bydd colled fawr ar ei hôl.

"Bydd yr holl roddion yn mynd yn uniongyrchol i deulu Lucy tuag at gostau’r angladd, ac unrhyw ddigwyddiadau dilynol i anrhydeddu a chofio Lucy."

Calonnau wedi torri

Roedd Lucy yn gweithio yng Ngwesty a Bwyty Breeze Hill Bar ym Menllech.

Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y perchnogion: "Mae wedi bod yn wythnos hynod drist yn The Breeze Hill. Tafarn sydd wedi torri, yn llawn calonnau sydd wedi torri.

"Collwyd ein Lucy annwyl ddydd Gwener diwethaf, dim ond ychydig wythnosau ar ôl ei phen-blwydd yn 18 oed.

"Nid aelod o’r staff yn unig oedd Lucy; roedd hi’n rhan o’n teulu estynedig ac yn cael ei thrysori gennym ni, ein cwsmeriaid a’i chydweithwyr – llawer ohonynt wedi dod yn ffrindiau agos iddi. 

"Roedd Lucy yn ofalgar, yn ddoniol, yn glyfar ac yn gwenu’n gyson. 

"Roedd Lucy yn rhagorol wrth ofalu am ein cwsmeriaid, a bydd llawer ohonynt yn gweld ei heisiau yn fawr.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Lucy. Mae llawer o’i ffrindiau agosaf wedi ymweld â The Breeze yr wythnos hon, ac mae eu poen a’u galar yn amlwg i’w gweld. Roedd Lucy fel y glud rhyngddynt, yn rhwymyn hudolus.Felly, rydym yn gofyn i chi i gyd helpu i ragori ar y targed ariannol – gadewch i ni helpu i roi’r ffarwel y mae Lucy yn ei haeddu iddi.

Gellir hefyd adael rhoddion arian parod gyda ni yn The Breeze Hill.

Yn fuan, byddwn yn siarad â theulu a ffrindiau Lucy gyda’r bwriad o gynnal digwyddiad coffa yn y dyfodol agos."

Llun: Breeze Hill

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.