‘Y dyn prysuraf yn Dre’: Dyn ag anableddau dysgu yn mwynhau rôl seremonïol arbennig
‘Y dyn prysuraf yn Dre’: Dyn ag anableddau dysgu yn mwynhau rôl seremonïol arbennig
Mae dyn o Wynedd sydd yn rhan o dîm o weithwyr ag anableddau dysgu yn dweud ei fod yn “hapus iawn” ei fod wedi atgyfodi rôl seremonïol arbennig gyda Chyngor Tref Caernarfon.
Yn ystod y dydd, mae Iwan Morris, 42 oed o Fethel, yn rhoi dŵr i flodau ar Faes y dref yn ogystal ag agor, chau a glanhau toiledau ym Mharc Coed Helen a chodi sbwriel yno.
Mae’n gwneud y gwaith fel rhan o dîm anableddau cyflogedig Cyngor Gwynedd, ar ran y Cyngor Tref.
Ond mae ei wasanaeth i’r dref yn parhau ar nosweithiau a phenwythnosau.
Mae Iwan yn gwirfoddoli i lanhau adeilad yr Institiwt, cartref y cyngor tref, yn ogystal ag Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig yng nghastell y dref.
Ac ers mis Ebrill, mae wedi ymgymryd â rôl newydd gyda Chyngor y Dref, sef Byrllysgwr – neu Mace Bearer ar gyfer seremonïau’r Maer.
“Iwan di’r un prysuraf yn y dre, swni’n deud! Drwy’r dydd a’r nos,” meddai Richard ‘Jonjo’ Jones, Is-arweinydd Gwasanaeth Cefnogol Arfon, sydd yn ceisio helpu pobol efo anableddau dysgu i mewn i gyflogaeth.
Cafodd y rôl arbennig ei hatgyfodi eleni ar ôl i’r cyngor dreulio’r 10 mlynedd diwethaf heb fyrllysgwr.
Dywedodd Alun Jones, Dirprwy Glerc y Cyngor Tref: “Mae’n rôl oedd di mynd i gysgu am gyfnod, felly mae o di cael adfywiad.
“Mae’r byrllysg (maces) eu hunain, 'di bod yma mewn safe ers rhyw 10 mlynadd heb fod byrllysgwr yma neu rywun i gario nhw.
“So gynigwyd o i Iwan i weld os ‘sa fo ffansi fo - a fatha bob dim ma’ Iwan yn neud, a duck to water.
“Mae o just yn gwybod yn syth be sydd angen a mae o’n neud o’n union i’r llythyren o be ti’n gofyn iddo i wneud. Elli di’m gofyn am well na hynny.”
Dywedodd Iwan: “Dwi’n licio bod yn mace bearer, dwi’n hapus iawn bod yma. Dwi’ enjoio gweithio efo pawb a dwi’n hapus a'n gwenu.”
'Gweithwyr hapus'
Mae’r trefniant i gyflogi unigolion ag anableddau dysgu i gadw tref Caernarfon yn daclus wedi bod yn llwyddiant, yn ôl y cyngor tref, ac mae cynllun tebyg bellach wedi’i gyflwyno ym Mangor.
Dywedodd Richard: “Mae’r bysus yn stopio ar y maes a ma’ nhw’n tynnu llun y blodau gynta’ cyn y castell, so ma’ hwnna'n rwbath da, bod y blodau’n cael y sylw cyn y castell.
“Ma pobol just yn gweld y gweithwyr rownd y dre yn neud eu gwaith. Maen nhw’n hapus, mae’r pobol yn hapus efo’r gwaith sy’n mynd ymlaen. Mae gen ti Dewi ac Alun (clerc a dirprwy glerc) o’r Cyngor Tref, maen nhw’n hapus.”
Fe ychwanegodd: “Dwi efo 15 [o weithwyr] ar draws Bangor a Caernarfon ac mae o just yn cynyddu. Gwaith mewn caffis a siopau hefyd – dim just efo cynghorau tref.
"Os ma' nhw’n gallu gwneud y gwaith, ma nhw’n fod i gael y cyflog amdano fo dydi.”
Yr wythnos hon, fe gafodd Parc Coed Helen Caernarfon ei wobrwyo gyda Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am daclusrwydd, chymeriad a bioamrywiaeth y safle – a hynny am y tro cyntaf yn hanes y parc.
“Mae hwnna i lawr i waith caled Iwan a Matthew a Jonjo a’r tîm, heb os. Mae’n edrych yn ffantastic ac mae’r tîm yn llnau’r parc yn spotless bob dydd,” medd Alun.
“Dwi’n meddwl y peth mwya’ pwysig mewn ffor' ydi bod y tîm yn cael ei weld yn y dref yn neud gwaith. Mae’n normaleiddio’i rhan nhw yn y gymdeithas a dyna’r prif reswm i neud o, o’n ochr ni.
“Natho’n nhw gymud at y gwaith yn syth a da ni’n lwcus iawn bod yr arbrawf wedi gweithio ac maen rhywbeth sa’n gallu gweithio trwy’r wlad i gyd, trwy Brydain.”
Ychwanegodd Iwan: “Dwi’n licio gweithio yn y parc, cadw’r lle’n lân, a dwi’n licio gweithio yn yr Institiwt hefyd efo Alun a Dewi a Jonjo.
“Dwi’n teimlo’n hapus a teulu fi’n teimlo hapus am bod fi di gael gwaith da. Mae calon fi’n hapus. “
'Arwain y ffordd'
Wrth adlewyrchu ar y cynllun, dywedodd y Cynghorydd Sir Dilwyn Morgan, sy'n Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod yr awdurdod yn "arwain y ffordd gyda'r math yma o gytundeb".
“Mae datblygu cyfleoedd gwaith i unigolion ag anabledd dysgu yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Mae’r cytundeb gyda Chyngor Tref Caernarfon wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect yn Arfon, ac mae 11 o oedolion ag anabledd dysgu wedi cael eu cyflogi ar gytundebau amrywiol i gyflawni gwaith cynnal a chadw o amgylch Caernarfon.
“Mae’r gwaith da hwn wedi denu sylw gan Cynghorau Tref / Dinasoedd eraill o fewn y sir, gan arwain at gytundeb newydd gyda Chyngor Dinas Bangor. Mae pedwar unigolyn wedi cael eu cyflogi hyd yma. Mae’r dysgu a’r syniadau yn cael ei rannu ar draws y sir er mwyn gallu cynnig gwasanaeth tebyg ym mhob ardal o Wynedd.
“Mae llawer iawn o waith yn mynd ymlaen ar lefel rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o’r manteision i allu cynnig gwaith i unigolion ag anabledd dysgu, ac mae Gwynedd yn arwain y ffordd gyda’r math yma o gytundeb.”