Cwpan y Byd: Sbaen yn fuddugol ond diwrnod o wyliau i'r Ariannin ar ôl ffeinal ddadleuol

Sbaen yn ennill Cwpan y Byd

Mae Arlywydd yr Ariannin wedi datgan y bydd trigolion y wlad yn cael diwrnod o wyliau, er i dîm y wlad golli’r ffeinal yn erbyn Sbaen yn nhalaith New Jersey.

Dywedodd Javier Milei y bydd y diwrnod o wyliau yn cael ei ddewis gan y tîm pêl-droed ar ôl iddyn nhw golli 1-0 yn erbyn Sbaen nos Sul.

Cafodd Sbaen eu coroni’n bencampwyr ar ôl i Ferran Torres sgorio unig gôl y gêm mewn amser ychwanegol.

Roedd hi’n ffeinal i'w hanghofio i’r Ariannin. Cafodd Enzo Fernandez gerdyn coch yn y 93ain munud ar ôl tacl galed, a doedd y tîm ddim wedi cael yr un ergyd ar darged tan y 115fed munud.

Nid yw’n anarferol i wlad ddathlu ennill Cwpan y Byd drwy gyhoeddi diwrnod o wyliau cenedlaethol. Roedd Keir Starmer wedi addo gŵyl banc pe bai Lloegr wedi dod â 60 mlynedd o boen i ben.

Ond mae’n llai cyffredin dathlu gorffen yn ail drwy gyhoeddi diwrnod o wyliau.

Ysgrifennodd yr Arlywydd Milei mewn neges ar X: “O ystyried y diddordeb yn y dathliadau ar ôl camp Tîm Cenedlaethol yr Ariannin, rwy’n rhoi gwybod i’r bobl y bydd diwrnod o wyliau cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi.

“Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y bydd y chwaraewyr a’r staff hyfforddi yn ei benderfynu ynglŷn â diwrnod y dathlu.”

Yn y cyfamser, mae chwaraewyr y tîm wedi cael eu beirniadu am beidio ag wynebu chwaraewyr Sbaen wrth iddyn nhw dderbyn y tlws ar y llwyfan. Fe wnaeth chwaraewyr yr Ariannin gyfarch eu cefnogwyr yn y dorf yn lle hynny.

'Crap'

Nid dyna oedd yr unig foment ddadleuol. Fe wnaeth y sioe hanner amser gyntaf mewn rownd derfynol Cwpan y Byd hollti barn hefyd, ar ôl i’r egwyl bara mwy na 27 munud.

Dywedodd cyn-ymosodwr Lloegr, Wayne Rooney, oedd yn gweithio fel sylwebydd i’r BBC yn Stadiwm MetLife ochr yn ochr â Joe Hart a Micah Richards, nad  oedd y sioe wedi gwneud argraff arno.

Ar ôl i’r cyflwynydd Gabby Logan ofyn i’r tri beth oedd eu huchafbwyntiau o’r sioe, atebodd Rooney, sy’n 40 oed: “A bod yn onest, fy uchafbwynt i oedd pan ddaeth hi i ben.

“Dw i’n hoffi lot o’r artistiaid yna, ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n sothach (crap).

“Doedd hi ddim yn fy nghyffroi i ac roeddwn i eisiau i’r pêl-droed ddechrau eto. Dw i’n hoffi Burna Boy, dw i’n hoffi Bieber, dw i’n hoffi Shakira, ond doedd dim digon o egni.”

Roedd y sgwrs wedi dod ar ôl hysbyseb yn hyrwyddo’r BBC, ac fe ychwanegodd Logan: “Mi ddywedaf i wrthych chi beth arall gewch chi ar y BBC: adolygiadau gonest.”

Llun gan BILDBYRÅN / Reuters Connect

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.