Andy Burnham yn Brif Weinidog newydd y DU
Mae Andy Burnham wedi cwrdd â'r Brenin a bellach yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig gan addo “lle i anadlu” wrth i gostau byw godi.
Fe gyrhaeddodd Andy Burnham Balas Buckingham ddydd Llun, gan dderbyn gwahoddiad swyddogol i ffurfio llywodraeth gan y Brenin.
Wrth gyrraedd Rhif 10 dywedodd dywedodd Andy Burnham ei fod yn "ymwybodol iawn mai fi yw’r chweched person yn ystod y deng mlynedd diwethaf i gerdded i fyny’r stryd hon, a’r seithfed prif weinidog ers 2016".
“Mae’n rhaid i wleidyddion fy nghenhedlaeth i godi ein safon ac ymateb i’r her newydd," meddai.
“Mae angen i Brydain ddangos i’r byd ein bod ni’n gallu adennill ein sefydlogrwydd unwaith eto.
“A dyna yw ein her, gwneud i wleidyddiaeth weithio, a gwneud iddi weithio’n well.”
Dywedodd Andy Burnham y dylai’r newid arweinyddiaeth fod “yn foment pan fydd Prydain yn dechrau credu unwaith eto”.
Wrth gloi ei araith, dywedodd: “Fe wna i roi fy holl egni i mewn i hyn, ac rydw i’n gofyn i chi gyd gyd-dynnu gyda mi. Gadewch i ni feithrin ymdeimlad cenedlaethol newydd o undod, o nod cyffredin ac o bositifrwydd.
“Gadewch i ni sicrhau mai dyma’r foment pan fydd Prydain yn dechrau credu unwaith eto, y foment pan fyddwn ni’n dod â gobaith yn ôl.”
Mae Andy Burnham yn disodli Syr Keir Starmer, sydd wedi bod yn Brif Weinidog am ychydig dros ddwy flynedd, wedi iddo gael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur yn ddiwrthwynebiad ddydd Gwener.
Wrth gamu o'r neilltu fore dydd Llun, dywedodd Keir Starmer bod ei “waith wedi’i gwblhau” wrth iddo baratoi i weld y Brenin i gyflwyno ei ymddiswyddiad.
“Mewn chwe blynedd a hanner, fe wnes i arwain ein plaid o golled hanesyddol yn 2019, a'i newid fel ei bod yn barod i wynebu’r wlad ac ennill buddugoliaeth ysgubol yn etholiad cyffredinol 2024," meddai.
“Ers hynny, braint fwyaf fy mywyd oedd eich gwasanaethu chi a’r wlad wych hon fel Prif Weinidog, ac rydw i’n hyderus bod Prydain bellach yn gryfach ac yn decach nag yr oedd hi ddwy flynedd yn ôl."
Mewn datganiad, dywed Palas Buckingham: "Cafodd Syr Keir Starmer AS gynulleidfa gyda'r Brenin y bore yma ac fe gyflwynodd ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog ac Arglwydd Cyntaf y Trysorlys, ac roedd Ei Fawrhydi yn falch iawn o dderbyn hynny.
"Cafodd yr Arglwyddes Starmer ei derbyn gan y Brenin hefyd."
Olew
Ar ôl traddodi araith, mae disgwyl i Mr Burnham gyhoeddi pwy fydd yn ei gabinet.
Mae’n debyg ei fod wedi bod yn ystyried naill ai’r Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, neu’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, ar gyfer swydd Canghellor y Trysorlys.
Mewn cyfweliad â The Times, dywedodd Mr Burnham ei fod eisoes wedi siarad â’r Trysorlys am y cyhoeddiadau y mae’n bwriadu eu gwneud.
Pwysleisiodd hefyd ei bod yn bwysig gwneud i bobl “deimlo’n well”.
Dywedodd fod cwynion am rewi trothwyon treth wedi “aros yn ei feddwl” ers ymgyrch Makerfield.
“Felly pan mae pobl yn fy nisgrifio i fel rhywun sy’n codi trethi, wel unwaith eto, dydi pethau byth mor syml â hynny, nac ydyn? Mae’r pwynt am le i anadlu yn un difrifol iawn,” meddai.
Mae adroddiadau wedi awgrymu y gallai cymorth gyda chostau byw gynnwys camau i leihau biliau ynni, gan gynnwys caniatáu rhagor o waith drilio am olew a nwy ym Môr y Gogledd.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi annog Mr Burnham i gadw at faniffesto Llafur yn 2024. Roedd hwnnw’n addo peidio â rhoi trwyddedau newydd ar gyfer drilio ym Môr y Gogledd. Maen nhw’n dadlau na fyddai trwyddedau o’r fath yn lleihau biliau ynni.
Mae’n debyg y bydd diwygio gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth arall. Mae Mr Burnham wedi dweud ei fod yn dymuno “gwario ei gyfalaf gwleidyddol” ar y mater.
Ymateb
Dywedodd Plaid Cymru fod Andy Burnham wedi “dweud ei ddweud am ddatganoli, nawr mae’n bryd iddo weithredu a pharchu’r mandad sydd gan Gymru am fwy o bwerau”.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, fod Plaid Cymru yn barod i weithio’n adeiladol gyda’r Prif Weinidog newydd i wella bywydau pobl yng Nghymru.
“Rhaid i arweinydd newydd y Blaid Lafur a’r Prif Weinidog nesaf fabwysiadu dull gwahanol o lywodraethu os yw am lynu wrth ei egwyddorion o blaid datganoli,” meddai.
“Ar ôl blynyddoedd o anghydraddoldeb oedd wedi’i ganoli’n ormodol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn nodi dechrau perthynas fwy parchus a chynhyrchiol rhwng Cymru a San Steffan.
“Mae gan Blaid Cymru fandad gan bobl Cymru i fynnu mwy o ddatganoli, gan gynnwys pwerau dros reilffyrdd, Ystâd y Goron, cyfiawnder a phlismona.
“Mae Andy Burnham wedi dweud ei ddweud am ddatganoli, nawr mae’n bryd iddo weithredu a pharchu’r mandad hwnnw.”
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, wedi annog Mr Burnham i gydweithio â phleidiau eraill er mwyn datrys yr “argyfwng gofal cymdeithasol”.
Mae wedi galw am hawliau gwarantedig i ofalwyr teuluol, rhwyd ddiogelwch gyffredinol ac amddiffyniad rhag “costau trychinebus”.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, hefyd wedi ysgrifennu at Mr Burnham. Dywedodd y byddai ei phlaid yn gweithio gydag ef i leihau’r bil lles, a galwodd arno i ddiystyru codi trethi ac i gefnogi rhagor o waith drilio am olew a nwy.
Dywedodd Mrs Badenoch wrth Mr Burnham na fyddai hi “byth yn osgoi” ei ddwyn i gyfrif.
“Byddwch yn dechrau yn y swydd heb fod wedi cyflwyno cynllun clir ar gyfer unrhyw un o’r materion sy’n wynebu ein gwlad,” meddai.
“Rydych wedi gwrthod galwadau i ddod gerbron Senedd [y DU] i ateb cwestiynau gan ASau, ac nid ydych wedi wynebu craffu difrifol gan y cyfryngau. Nid yw hyn yn ddechrau addawol.”