Cymru'n colli yn erbyn De Affrica yn Twickenham
Fe gollodd Cymru yn ôl y disgwyl mewn gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn o 41-13.
Roedd y gêm yn cael ei hystyried fel un gartref i Dde Affrica ac roedd Cymru wedi colli pob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cyn i'r gêm ddechrau cafwyd munud o gymeradwyaeth i gofio am Courtenay Meredith, cyn-brop Castell-nedd, Cymru a'r Llewod fu farw yn ddiweddar yn 97 oed.
Fe aeth y Springboks ar y blaen yn y munudau agoriadol gyda chyd-chwarae ar hyd yr ystlys chwith rhwng y canolwr Jesse Kriel a'r asgellwr Makazole Mapimpi yn rhoi'r cyfle i Kriel groesi am gais. Fe drosodd y maswr Jordan Hendrikse. De Affrica 7-0 Cymru.
Cafodd Cymru gyfle i leihau'r bwlch i bedwar pwynt wrth i'r maswr Sam Costelow lwyddo gyda chic gosb ar ôl saith munud.
Fe dderbyniodd asgellwr Cymru Rio Dyer gerdyn melyn am gamsefyll ar linell gais Cymru yn dilyn rhediad grymus wythwr De Affrica Evans Roos.
Yn dilyn pwysau gan flaenwyr De Affrica fe ddyfarnwyd cais cosb iddyn nhw ar ô 15 munud gydag wythwr Cymru Aaron Wainwright yn derbyn ail gerdyn melyn Cymru. De Affrica 14-3 Cymru.
Cafodd Cymru gyfle am gais wedi 22 munud wrth i olwyr De Affrica gael eu dal yng nghanol y cae ond ni lwyddodd olwyr Cymru i gadw eu gafael ar y bêl.
Tro De Affrica oedd hi i ildio cerdyn melyn pan gafodd y cefnwr Aphelele Fassi ei anfon i'r gell gosb am godi ei droed yn beryglus wrth ddal y bêl uchel.
Fe aeth Cymru am yr ystlys ac o'r lein fe gafodd bachwr a chapten Cymru Dewi Lake ei ddwylo ar y bêl a hyrddio drosodd am gais gyda Costelow yn trosi. De Affrica 14-10 Cymru.
Wrth i Dde Affrica chwarae'n flêr fe achubodd Cymru ar y cyfle am gic gosb arall i ddod o fewn pwynt i'w gwrthwynebwyr.
Hanner amser: De Affrica 14-13 Cymru.
Grym
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn yr un modd i'r Springboks gyda Mapimpi yn croesi am gais ar hyd yr ystlys chwith er roedd yna amheuaeth fod y bas iddo wedi mynd ymlaen. Gyda Hendrikse yn trosi eto roedd De Affrica 21-13 ar y blaen.
Fe aeth De Affrica ymhellach ar y blaen yn dilyn cic gosb ar ôl 49 munud gan Hendrkse. De Affrica 24-13 Cymru.
Fe groesodd Cymru llinell gais De Affrica o lein ar ôl 58 munud ond yna anffodus dyfarnwyd nad oedd Lake wedi tirio'r bêl.
Fe ychwanegodd yr eilydd Sacha Feinberg-Mngomezulu gic gosb o 52 metr dros Dde Affrica ar ôl 65 munud. De Affrica 27-13 Cymru.
Daeth pedwerydd cais i Dde Africa gan yr eilydd Bongo Mbonambi gyda Mngomezulu yn trosi. De Affrica 34-13 Cymru.
Sgoriodd yr asgellwr Edwill van der Merwe gais rhif pump i Dde Affrica yn y munudau olaf i rhwbio halen yn y briw gyda Mngomezulu yn trosi. De Affrica 41-13 Cymru.
Buddugoliaeth haeddiannol i Dde Affrica ac nid oedd gan Gymru ddigon o ddychymyg na phrofiad yn eu chwarae yn erbyn grym y Springboks.
Y sgôr terfynol: De Affrica 41-13 Cymru.