Cantores o Gaernarfon i gefnogi Stevie Nicks
Bydd cantores o Gaernarfon yn cael cyfle i gefnogi'r artist Stevie Nicks mewn cyngerdd yn Llundain.
Roedd Catrin Hopkins, sy'n perfformio dan yr enw 'Catty', a sydd bellach yn byw yn Llundain, wedi defnyddio Instagram i "werthu ei hun fel ci" er mwyn cael ymddangos yn nigwyddiad BST Hyde Park.
Gyda'i bryd ar gefnogi Stevie Nicks, fe wnaeth Catty anfon neges i asiant y seren Fleetwood Mac ar yr ap cyfryngau cymdeithasol.
Yn y nodyn llais, dywedodd: “Helo, mae hyn mor embarrassing, ond dw i'n meddwl mai fi ddylai fod.”
'Breuddwyd fawr'
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Catty: “Fe wnes i ffonio fy rheolwr a dweud ‘does dim ffordd y gall hyn fynd yn ei flaen hebddo i'.
“Fe wnaethon ni anfon e-bost at bawb y gallem ni a doedden ni ddim yn cael unrhyw lwc.
“Felly des i o hyd i’r asiant archebu a nes i anfon nodyn llais ati ar Instagram.”
Dechreuodd Catty ei gyrfa yn y ddeuawd bop Dusky Gray yn 2016 cyn symud i Lundain i fod yn artist unigol yn 2021.
Yn ystod ei hamser yn Dusky Gray, roedd Catty a Gethin Llwyd Williams wedi perfformio mewn cyngerdd Lewis Capaldi.
Fe fydd Catrin hefyd yn ymddangos ar Lwyfan Cymuned S4C yn yr ŵyl Balchder yng Nghaerdydd.
Ond dywedodd Catty bod cael y cyfle i gefnogi Stevie Nicks yn “freuddwyd fawr”.
“Mae hyn yn golygu’r byd i mi,” meddai.
"Yr ymateb ges i pan gafodd hyn ei gyhoeddi, nes i grio. Dyna'n llythrennol fy arwr!”
Bydd Catty yn perfformio yn BST Hyde Park ar 12 Gorffennaf.
Llun: Catty