
‘Mor lwcus i briodi heddiw’: Newid i drefn priodasau yn rhyddhad i gyplau

‘Mor lwcus i briodi heddiw’: Newid i drefn priodasau yn rhyddhad i gyplau
Mae cwpwl priod wedi dweud bod newid y rheolau ar briodasau wedi gwneud “gwahaniaeth enfawr” i’w diwrnod o ddathlu.
Priododd Emily Thomas a Niall Muir ar ddiwrnod y llacio, sef 1 Gorffennaf 2021, yn Oldwalls Gower ger Abertawe.
Gall seremonïau priodas a phartneriaethau sifil gael eu cynnal yn yr awyr agored am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig.

“Rydym yn lwcus iawn ein bod wedi priodi heddiw, nid wythnos diwethaf,” medd y briodferch.
“Pwrpas priodas yw gallu dathlu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau, felly byddai gorfod gadael i arwyddo darn o bapur tu fewn yn wallgof i mi.”
“Mae’n golygu llawer ein bod ni wedi gallu gwneud popeth o flaen y teulu mewn lleoliad anhygoel.
Bydd y newid yn buddio bron i 75% o briodasau a phartneriaethau sifil sydd ddim yn grefyddol, yn ôl Llywodraeth y DU.
I drefnwyr priodas, mae’n “braf cael newyddion da am unwaith”.

Mae Shakira Obaid, sy’n un o gyfarwyddwyr Oldwalls, yn dweud bod cael cydnabyddiaeth gan y Llywodraeth bod priodasau’n bwysig “yn wirioneddol wych.”
“Dyw hi ddim yn gyfrinach bod y diwydiant wedi wynebu heriau mawr dros y deunaw mis diwethaf.”
O ddydd Llun ymlaen, bydd man lacio ar gyfyngiadau priodasau yn Lloegr, gyda’r rheol o 30 o westeion yn cael ei godi. Yng Nghymru, bydd y llywodraeth yn adolygu’r cyfyngiadau ar 15 Gorffennaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Robert Buckland: "Mae diwrnod priodas yn un o'r amseroedd mwyaf arbennig ym mywydau’r cwpwl a bydd y newid hwn yn caniatáu iddynt ei ddathlu yn y ffordd maent yn dymuno.”
"Ar yr un pryd, bydd y cam hwn yn cefnogi'r sector priodasau trwy ddarparu mwy o ddewis a helpu lleoliadau i ateb y galw am seremonïau mwy."