Person wedi marw ar ôl disgyn ar fynydd yn Eryri
19/06/2024
Mae person wedi marw wedi iddyn nhw ddisgyn ar fynydd y Glyder Fach yn Eryri.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a hofrennydd eu galw ddydd Sadwrn yn dilyn galwad gan bartner y person wnaeth ddisgyn.
Cafodd timau achub eu gollwng ar y mynydd gan hofrennydd, ond roedd y person eisoes wedi marw erbyn iddyn nhw gael eu darganfod.
Cafodd y corff ei gludo o'r mynydd gan hofrennydd medd swyddogion.
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r person a fu farw.
Llun: Wikimedia Commons