Rygbi: Jac Morgan wedi ei adael allan o dîm Cymru i herio De Affrica
Nid yw Jac Morgan wedi ei ddewis yn nhîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Y bachwr Dewi Lake sydd wedi ei enwi’n gapten ar gyfer gêm gyntaf y Cymry dros gyfnod yr haf, yn erbyn pencampwyr y byd.
Roedd Morgan, oedd yn gyd-capten ar Gymru gyda Lake yng Nghwpan y Byd y llynedd, wedi ei gynnwys yn y garfan hyfforddi gan Warren Gatland ar ôl treulio’r tymor gyda sawl anaf.
Ond ar ôl dioddef anaf llinyn y gar yng ngêm y Gweilch yn erbyn Munster fis yma, ni fydd yn cymryd rhan yng ngemau Cymru dros yr haf.
Mae Liam Williams yn dychwelyd i’r tîm ac yn cychwyn ar yr asgell, gyda Rio Dyer ar yr asgell arall a Cameron Winnett yn gefnwr.
Owen Watkin a Mason Grady sydd yn cychwyn yn safle’r canolwyr, tra bod Sam Costelow yn y crys rhif 10.
Bydd mewnwr Caerdydd, Ellis Bevan, yn cychwyn wrth ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.
Yn y pac, bydd Gareth Thomas yn ymuno â Lake a Henry Thomas yn y rheng flaen. Deuawd y Dreigiau, Matthew Screech a Ben Cartrer sydd yn dechrau yn yr ail reng, gyda Taine Plumtree, James Botham ac Aaron Wainwright yn cwblhau’r rheng ôl.
Ar y fainc, mae James Ratti wedi ei gynnwys am y tro cyntaf ar ôl gael ei alw i fyny i’r garfan ar y funud olaf. Mae dau chwaraewr arall sydd heb gap, Eddie James a Jacob Beetham, hefyd ymhlith yr eilyddion.
Mae De Affrica wedi enwi tîm cryf ar gyfer y gêm, gyda sawl aelod o’r garfan a enillodd Cwpan y Byd 2023 yn cychwyn, gan gynnwys Eben Etzebeth, Kwagga Smith, Peter Steph du Toit, Ox Nche, Faf de Klerk a Jesse Kriel.
Dywedodd Warren Gatland: "Ry’n ni wedi cael wythnos heriol wrth baratoi ar gyfer wynebu enillwyr Cwpan y Byd – ond mae’r holl garfan wedi eu cyffroi ar gyfer yr achlysur a’r gêm yn Twickenham dros y penwythnos.
"Mae’r rhai sydd wedi eu dewis yn benderfynol o berfformio’n dda ddydd Sadwrn.
"Mae’r garfan sydd gennym bellach yn ifanc ac mae’r tîm hyfforddi wedi ein plesio’n fawr gydag ymdrech y bechgyn.
"Mae gennym lawer iawn o botensial yn y garfan hon a bydd y pum wythnos nesaf yn allweddol bwysig wrth i ni adeiladu ar y potensial hwnnw."
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
15. Cameron Winnett (Caerdydd – 5 cap)
14. Liam Williams (Kubota Spears – 89 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 38 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 11 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 19 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 12 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd - heb gap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 30 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)
3. Henry Thomas (Scarlets – 4 cap)
4. Matthew Screech (Dreigiau – 1 cap)
5. Ben Carter (Dreigiau – 11 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 2 cap)
7. James Botham (Caerdydd – 10 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 48 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 2 cap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 2 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 6 cap)
19. James Ratti (Gweilch – heb gap)
20. Mackenzie Martin ( Caerdydd – 3 cap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 76 cap)
22. Eddie James (Scarlets – heb gap)
23. Jacob Beetham (Caerdydd - heb gap)