Clwb Pêl-droed Caernarfon i chwarae eu gemau Ewropeaidd ym Mangor
Clwb Pêl-droed Caernarfon i chwarae eu gemau Ewropeaidd ym Mangor
Y Caneris yn sicrhau eu lle yn Ewrop fis dwetha wrth guro Pen-y-bont 3-1.
Er sicrhau lle i chwarae yn Ewrop, fe ddaeth i'r amlwg nad ydy'r cae yma yng Nghaernarfon yn addas ar gyfer gemau Ewropeaidd.
Felly mi fydd gemau cartre Caernarfon yn cael eu cynnal draw ar y cae pêl-droed ym Mangor.
Penderfyniad sydd wedi corddi'r dyfroedd ymysg rhai.
"Wel, oedd o fod i chwarae yn cae TNS i ddechra efo hi.
"Mae'n well na dim, yndy.
"Fyny lôn ydy o ar ddiwedd y dydd."
"Mae'n dibynnu be sy orau i'r clwb a dw i'm yn siwr be di'r capasiti.
"Be bynnag sydd orau i'r clwb i fod yn onest."
"Bach yn od gorfod mynd i cae rivals rili i chwarae gemau.
"Lwcus bod yn Ewrop, I guess, so jyst ie. Bittersweet. Bach yn od.
"Dw i'n siwr fydd gan Dre lot o ffans yn mynd i watcho nhw."
Mi fydd Cei Conna hefyd yn chwarae ar gae Nantporth yn yr un gystadleuaeth ym mis Gorffennaf.
I Gaernarfon yn hanesyddol, dyma'r ddarbi leol a'r elyniaeth efo Bangor felly yn dipyn o draddodiad.
"Ar un wedd mae o'n eithaf od bod Caernarfon yn mynd i chwarae un o'r gemau mwyaf yn hanes y clwb ar faes eu prif elynion nhw.
"Dros y blynyddoedd mae'r ymryson rhwng y clybiau pêl-droed yn adlewyrchiad i raddau o ymryson cyffredinol, cymdeithasol a masnachol rhwng y ddwy dref.
"Mae hi lot haws dod 10 milltir lawr lôn i gefnogi'r clwb ym Mangor na teithio'r holl ffordd i ochrau Croesoswallt."
Gelyniaeth neu beidio mae 'na gyfle i Gaernarfon greu mwy o hanes a hynny ar lwyfan ychydig yn annisgwyl.