Caerdydd i gynnal gêm agoriadol Euro 2028
Mae disgwyl i UEFA gyhoeddi y bydd gêm agoriadol Euro 2028 yn cael ei chynnal ym mhrifddinas Cymru.
Roedd Caerdydd eisoes wedi’i chyhoeddi fel un o'r dinasoedd a fyddai'n cynnal Euro 2028 wrth i'r twrnamaint pêl-droed gael ei gynnal yn y DU ac Iwerddon.
Bydd y gêm agoriadol yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Principality, yn ogystal â rhai o gemau eraill y twrnamaint.
Er bod Cymru wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr o’r blaen, dyma fydd y tro cyntaf i’r wlad gynnal gemau yn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ar gyfer dynion hŷn.
Bydd Wembley yn cynnal y rowndiau cynderfynol a rownd derfynol Euro 2028.
Ond roedd y stadiwm yn Twickenham wedi gobeithio cael cynnal gêm agoriadol y twrnamaint.
Daw ar ôl i'r Alban golli 5-1 yn erbyn yr Almaen yng ngêm agoriadol Euro 2024 yn Munich.