Tywysoges Cymru i ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers cyhoeddi fod ganddi ganser
Fe fydd Tywysoges Cymru yn ymddangos mewn digwyddiad cyhoeddus am y tro cyntaf mewn rhai misoedd yfory.
Mae Kate, sy’n 42, wedi aros allan o lygaid y cyhoedd ers cael diagnosis o ganser o fath sydd heb ei gyhoeddi.
Mewn datganiad dywedodd bod ei thriniaeth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a’i bod yn gwneud “cynnydd da” ond yn cael “dyddiau da a dyddiau gwael”.
Dywedodd ei bod yn bwriadu “ymgymryd ag ambell i ddigwyddiad cyhoeddus dros yr haf” ond nad oedd hi “allan o berygl eto”.
“'Fel y bydd unrhyw un sy'n mynd trwy gemotherapi yn gwybod, mae yna ddyddiau da a dyddiau gwael,” meddai.
“Ar y dyddiau gwael rydych chi'n teimlo'n wan, yn flinedig ac mae'n rhaid i chi ildio i orffwys eich corff.
“Ond ar y dyddiau da, pan fyddwch chi'n teimlo'n gryfach, rydych chi am wneud y gorau ohoni.”
'Amyneddgar'
Ychwanegodd Kate: “Mae fy nhriniaeth yn parhau ac fe fydd yn parhau am ychydig fisoedd eto. Ar y dyddiau rwy’n teimlo’n ddigon da, mae’n bleser ymgysylltu â bywyd ysgol, treulio amser personol ar y pethau sy’n rhoi egni a phositifrwydd i mi, yn ogystal â dechrau gwneud ychydig o waith gartref.
“Rwy'n edrych ymlaen at fynychu Gorymdaith Pen-blwydd Y Brenin dros y penwythnos gyda fy nheulu ac yn gobeithio ymuno ag ymgymryd ag ambell i ddigwyddiad cyhoeddus dros yr haf.
“Ond hefyd rydw i’n gwybod nad ydw i allan o berygl eto.
“Rwy'n dysgu sut i fod yn amyneddgar, yn enwedig gyda’r holl ansicrwydd.
“Gan gymryd bob dydd fel y daw, gwrando ar fy nghorff, a chaniatáu i mi fy hun gymryd yr amser sydd ei angen i wella.”