Newyddion S4C

Pryder am ddiffyg cyfleoedd swyddi ar Ynys Môn

14/06/2024

Pryder am ddiffyg cyfleoedd swyddi ar Ynys Môn

Rhyw 500 metr o ddŵr sy'n hollti'r ynys o'r tir mawr ond mae gan Ynys Môn hunaniaeth ei hun.

O gymunedau twristaidd y glannau hyd bentrefi amaethyddol cefn gwlad.

Wrth grwydro llwybr yr arfordir, buan iawn mae rhywun yn sylwi mai'r un hen bethau sy'n poeni pawb yma.

"Arfon Williams dw i.

"Dw i 'di cael fy ngeni a magu yn Niwbwrch, chwarter milltir o fan'ma.

"Dw i wedi prynu'r tŷ yma a saith acer 44 years yn ôl."

Yma'n Niwbwrch gewch chi flas o gorau'r gorffennol ond edrych tua'r dyfodol mae Arfon Williams.

"Os 'sa nhw'n helpu'r gweithiwrs dw i'm yn gwybod os dw i'n dweud y peth wrong peidio lineio'u pocedi eu hunain.

"Rishi Sunak wythnos diwetha'n canslo D-Day celebrations.

"Mae pethau fel'na yn rwbio trwyn y person cyffredin."

A chi'n son am y sector dwristiaeth sy'n bwysig i chi yma.

"Mae'n bwysig ofnadwy i ni.

"'Dan ni'n Gymraeg yn Sir Fôn a'r iaith yn gryf.

"Ond 'dan ni'n dibynnu arnyn nhw a sna'm byd arall yn Sir Fôn, nag oes?

"Mae Tinto 'di cau, Wylfa 'di cau, mae ffatris 'di cau.

"Sna'm byd arall yma, nag oes?"

Mae rhan o stori Môn yn un llawn cadernid.

Er gwaetha'r ergydion economaidd, mae 'na ddyfalbarhau yma.

Wrth gyrraedd Malltraeth, dyma siarad efo Kathleen Roberts.

Mae'n deutha i'n blaen, mae bywyd yn anodd.

"Cost of living a bob dim a chyn gymaint o bethau wedi mynd i fyny.

"Mae mor ridiculous ar y funud."

Dach chi 'di sylwi hynna pan dach chi'n mynd i'r siop?

"Do, mae bob dim 'di codi, diesel, petrol, pob dim!"

Sut dach chi'n gwneud hi bob mis?

"Anodd, ynde.

"Gorfod mynd i food banks a 'mond so much dach chi'n cael."

Dach chi'n mynd i'r banciau bwyd ar hyn o bryd?

"Bydd, ond so much dach chi'n gael, dach chi'm yn cael mwy.

"Be 'dyn nhw ddim yn deall, dyw'r pres chi'n byw ar ddim digon.

"Dio'm digon o gwbl i fyw ar.

"'Tha pobl efo llond tŷ o blant, 'dyn nhw methu fforddio fo."

Mae 'na etholiad ar y ffordd. 

Be dach chi isio gweld gan y gwleidyddion 'ma? 

"I ddeud gwir, mae bob un yn gaddo bob dim. 

"Maen nhw'n mynd i mewn, sna'm ffasiwn beth." 

Ochr yn ochr â'r heriau arferol, oes mae 'na gyfoeth yma hefyd. 

Ond ar drothwy'r etholiad, mae awydd ac awch am gyfle teg i bawb. 

Bellach yn Aberffraw, mae tai yn flaenoriaeth. 

"Mae'n broblem fawr dros yr ardal yma. 

"Mae pobl ifanc a teuluoedd yn gorfod symud yn bell i ffwrdd." 

Mae'r boblogaeth yma'n Môn yn hŷn a'r ifanc yn gadael. 

Yn her felly i'r rheiny sy'n dal i fyw yma. 

"Mae teulu fi i gyd isio aros yn yr ardal ond mae'n anodd. 

"Dim jyst i brynu tŷ ond i rentio tai hefyd. 

"Roeddwn i'n gorfod byw ar safle carafan am flynyddoedd achos doedd dim lle arall i fyw o gwbl." 

O ran bywyd gwyllt, alla i glywed yr adar tu cefn i mi. 

Ydy llywodraethau gynt wedi gwneud digon o ran yr amgylchedd? 

"Mae'n nhw'n deud y pethau iawn ac yn trio gwneud y camau iawn ond does dim digon wedi ei wneud." 

"Housing is a very big issue along with rental accommodation and how we deal with that. 

"Renters have been forgotten for a long time." 

"Immigration is too high, that the economy is shut. 

"It is running a very high inflation and very low gross." 

"I'm here to give people a choice, a choice to champion communities. 

"A choice to do better. 

"A choice to be an alternative from the three main local parties that usually fight here on the island." 

Gan ddilyn yr arfordir, dyma gyrraedd tref fwya'r Ynys. 

Yn un o ardaloedd tlotaf Cymru mae'r ymdrech i adfywio Caergybi yn fawr. 

A thair wythnos tan yr etholiad, mae 'na alw gan rai am newid. 

"Gobeithio newid rhywle fel Caergybi efo siopau a busnesau a gwaith." 

Pa mor anodd 'di ar hyn o bryd yn yr ardal? 

"'Di'm yn hawdd o gwbl ond gobeithio bydd gwelliannau'n dod." 

"Does na'm llawer o waith yma, nag oes." 

Faint mae hynny'n poeni chi? 

"Dw i mewn oed rwan ond mae o'n boen. 

"Methu gweld y meddyg yn sydyn hefyd. Mae hynny'n broblem." 

Mae nifer o'r pynciau hyn wedi eu datganoli. 

Ac eto, y grym i'w datrys yn gorwedd yn Llundain. 

Ond, y gwir ydy mae Bae Caerdydd a San Steffan yn teimlo'n bell i ffwrdd i'r 52,000 o etholwyr yma ym Môn. 

Fel mae'r daith hon wedi dangos, mae 'na heriau enfawr yma a'r galw o hyd i'w datrys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.