Newyddion S4C

Awyren wedi plymio i ardd gefn yn Ynys Môn ar ôl i’r injan fethu

14/06/2024
Yr Awyren

Fe wnaeth awyren blymio i ardd gefn ar Ynys Môn ar ôl i’r injan fethu 600 troedfedd i fyny yn yr awyr, yn ôl adroddiad gan ymchwilwyr i’r ddamwain.

Bu’n rhaid cludo'r peilot 50 oed i’r ysbyty wedi'r digwyddiad a “ddinistriodd” yr awyren ar ystâd Cae Bach Aur, Bodffordd, ger Llangefni.

Cafodd garddwrn y peilot ei dorri ac fe ddioddefodd anafiadau eraill gan gynnwys anafiadau i’w ben er ei fod yn gwisgo helmed.

Mae’r Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) bellach wedi cyhoeddi adroddiad am y chwalfa ar ddydd Sadwrn 10 Chwefror eleni.

“Collodd yr awyren bŵer yn rhannol yn fuan ar ôl esgyn o lain glanio pedwar yn RAF Mona,” meddai’r adroddiad.

“Cafodd pŵer llawn ei adennill am ychydig cyn i'r injan ddod i stop. 

“Nid oedd y peilot yn gallu cyrraedd y maes awyr neu gae addas, a bu’n rhaid iddo lanio ynghanol coed.

“Dinistriwyd yr awyren a chafodd y peilot anaf difrifol. Does dim sicrwydd pam ei fod wedi colli pŵer.”

'Llai difrifol'

Dywedodd y peilot ei fod wedi anelu’n fwriadol am y gerddi a’r coed er mwyn osgoi'r tai.

Ar ôl y ddamwain cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r lleoliad am 1.44pm yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd yr adroddiad: “Roedd y peilot wedi ymateb yn brydlon i’r injan yn stopio ac roedd hynny wedi caniatáu mwy o reolaeth dros lwybr hedfan yr awyren ac amser i benderfynu ble i lanio.”

Roedd hynny medden nhw “yn ôl pob tebyg wedi cyfrannu at ganlyniad llai difrifol nag a allai fod wedi digwydd fel arall”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.