'Llanast llwyr': Cyngor yn y gogledd yn ymddiheuro am drafferthion casglu gwastraff
Mae cyngor yn y gogledd wedi ymddiheuro i drethdalwyr ar ôl i staff o wasanaethau eraill yr awdurdod gael eu symud i helpu gyda chasglu gwastraff.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi gobeithio arbed hyd at £500,000 y flwyddyn gyda chasgliadau misol o wastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Ond mae newidiadau i drefn casglu gwastraff er mwyn hybu ailgylchu wedi arwain at drafferthion.
Dywedodd un sydd yn byw yn ardal y cyngor nad oedd ei biniau wedi eu casglu ers mis.
Dywedodd dynes arall, Jacqui Roberts: "Nid yw gwastraff o Ffordd Henafon, Y Rhyl, wedi ei gasglu ers pythefnos.
"Rydym yn gorlifo gyda sbwriel, rydym yn defnyddio potiau planhigion i ddal sbwriel."
Disgrifiodd un arall y sefyllfa ar Facebook fel "llanast llwyr."
Dywedodd Paul Murray mewn neges ar y we: "Bravo Cyngor Sir Ddinbych, ail wythnos o gasgliadau sbwriel newydd ac rydych wedi methu'n llwyr, yn disgwyl casgliad ddydd Llun ond mae nawr yn ddydd Gwener, yn dal heb eu gwagio.
"Oh ac wrth gwrs fe fyddwch yn gadael y biniau mewn llwybrau cerdded gan beidio ag ailosod y biniau ar eich ôl."
'Gwerthfawrogi amynedd'
Dywedodd y cyngor ei fod am "ymddiheuro'n fawr i drigolion am effaith methu casgliadau wrth i ni gyflwyno'r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd."
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: “Rydym wedi profi nifer o faterion y gellir eu disgwyl gyda newid gwasanaeth o’r raddfa hon ac i fynd i’r afael â’r rhain, mae’r mesurau dros dro canlynol yn cael eu rhoi ar waith: rydym wedi dod â cherbydau a staff ychwanegol i mewn, felly mae mwy o griwiau allan bob dydd, mae sifftiau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith fel y gall criwiau aros allan yn hirach, bydd gennym griwiau allan ar ddydd Sadwrn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol sydd wedi'u methu, ac mae staff o wasanaethau eraill y cyngor yn cael eu hadleoli i helpu gyda thasgau i gefnogi'r criwiau casglu rheng flaen.
"Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd ond hefyd yn cydnabod eich rhwystredigeth ac yn ymddiheuro am yr effaith mae hyn wedi ei gael arnoch chi."