Euro 2024: Albanwr yn dweud bod ei waed yn '100% Almaenaidd' wedi trawsblaniad

14/06/2024
Ally Brown

Ar drothwy Euro 2024 ddydd Gwener, mae un cefnogwr tîm pêl-droed Yr Alban yn dweud fod ei waed yn '100% Almaenaidd' wedi trawsblaniad a achubodd ei fywyd bron i 25 mlynedd yn ôl. 

Fe gafodd Ally Brown, 41, drawsblaniad mêr esgyrn yn 16 oed. 

Cyn hynny, roedd wedi bod yn cael triniaeth am bedair blynedd am lewcemnia a oedd wedi dod yn ôl dair gwaith. 

"Mi fydda i'n cefnogi'r Alban, ond gwaed fy rhoddwr Almaeneg ydy fy ngwaed i," meddai.

Fe fydd Yr Alban yn wynebu'r Almaen yn eu gêm gyntaf yn Euro 2024 ddydd Gwener. 

Ychwanegodd Mr Brown: "Mae'n hynod o gyffrous ein bod ni'n chwarae yn erbyn Yr Almaen yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth, a dwi mor ffodus o gael tocyn, dwi methu aros.

"Mae fy ngwaed yn 100% Almaenaidd felly mae'r wlad yn agos iawn at fy nghalon. Ond mi fydda i'n gweiddi a chanu dros Yr Alban nos Wener."

Wrth siarad am ei roddwr, dywedodd Mr Brown eu bod yn cadw mewn cysylltiad ar Facebook ac yn defnyddio Google Translate i gyfathrebu gyda'i gilydd. 

"Mae fy rhoddwr wedi rhoi'r anrheg mwyaf arbennig i mi. Mae hi wedi rhoi 24 o flynyddoedd yn fwy o fywyd hyd yn hyn, a dwi mor ddiolchgar," meddai.

"Rydym ni wedi cyfnewid lluniau, ac fe anfonodd fy mhartner neges ati hi i ddiolch hefyd. Mae achub bywyd yn anrheg i'r teulu a'r ffrindiau hefyd, nid dim ond i un person."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.