Newyddion S4C

Priodas Pymtheg Mil: Y bleidlais ar agor i ddewis pa gwpl fydd yn cipio'r wobr fawr

14/06/2024
Priodas Pum Mil

Mae'r bleidlais wedi agor i benderfynu pa gwbl fydd yn ymddangos ar rifyn arbennig o gyfres S4C, Priodas Pum Mil. 

Y tro hwn, mewn rhaglen o'r enw Priodas Pymtheg Mil, fe fydd y cwpwl buddugol yn ennill priodas sydd werth teirgwaith cyllideb arferol y gyfres.

Y ddau gwpwl sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw Aled Johnson a Malin Gustavsson o Foncath, Sir Benfro, a Teresa Thomas a Rutger Heerbout o Lanrug, Gwynedd.

Mae’r bleidlais nawr ar agor ac fe allai'r cyhoedd bleidleisio dros bwy y byddant yn hoffi eu gweld yn ymddangos ar y rhaglen. Mae modd pleidleisio drwy wefan www.priodas.cymru. 

Bydd y pâr lwcus yn derbyn cefnogaeth eu teuluoedd a’u ffrindiau i drefnu’r diwrnod mawr, ond hefyd gyda chymorth y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris.

Mae Aled a Malin yn gweithio gyda phlant a gyda dau o blant eu hunain, Owain a Gwennan. 

Dywedodd Aled: “Wnaethom ni ddyweddïo yn Awst 2015. Y rheswm fwyaf pam dyn ni heb wneud e [priodi] yw rheswm ariannol, yn enwedig gyda theulu Malin yn dod o Sweden, er mwyn iddyn nhw bod yn rhan o’r achlysur boed hynny yn Sweden neu yng Nghymru.”

Mae Teresa a Rutger yn rhedeg tafarn yn Llanrug ac yn dymuno priodi yn nhref enedigol Rutger yn Yr Iseldiroedd. 

Meddai Teresa: “Fuon ni’n sgwrsio ar-lein am flynyddoedd, a wedyn wnaethom ni feddwl mae’n bryd i ni gwrdd, a dyna’r peth gorau wnaethom ni.

“Da’n ni wedi cael amser caled, wnes i golli dad... pump wythnos wedyn wnes i golli fy mab. Dwi ddim yn gwybod be faswn i wedi gwneud heb Rutger. Cariad fi di Rutger a mae o’n mynd i edrych ar fy ôl i am byth."

Bydd y bleidlais yn cau am 21.00 ar ddydd Gwener 21 Mehefin. Bydd y rhaglen arbennig i’w gweld ar S4C dros gyfnod gŵyl y Nadolig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.