Newyddion S4C

'Dechrau o'r dechrau': Tad i fachgen a fu farw'n chwech oed yn galw am gefnogaeth

13/06/2024
Ceri a Frances Menai-Davis

Mae tad bachgen a fu farw o fath prin o ganser yn chwe blwydd oed yn galw ar arweinwyr pleidiau gwleidyddol i barhau i gefnogi rhieni plant sydd yn sâl.

Bu farw Hugh Menai-Davis yn 2021 ar ôl cael diagnosis o fath prin o ganser.

Fe wnaeth ei rieni, Ceri a Frances Menai-Davis sefydlu elusen er cof am eu mab o’r enw It’s Never You, er mwyn ymgyrchu am newidiadau yn y ffordd mae rhieni plant sydd â salwch difrifol yn derbyn cefnogaeth ariannol.

Ond maen nhw'n poeni y bydd Etholiad Cyffredinol yn golygu y bydd rhai iddyn nhw ddechrau eu hymdrechion am gefnogaeth gwleidyddol i'r newidiadau o'r newydd.

"Roeddem wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran creu newid, ond yn anffodus, cafodd yr etholiad ei alw yng nghanol ein hymdrechion, ac rydym yn gorfod dechrau o’r dechrau," meddai Mr Ceri Menai-Davis.

“Rwyf wedi ysgrifennu at Rishi Sunak a Syr Keir Starmer, heb ateb, i ofyn a fyddant yn parhau â'r gwaith yr oeddem wedi rhoi cymaint o ymdrech iddo er cof am ein bachgen bach."

'Aros yn hir'

Un o brif bwyntiau 'Cyfraith Hugh' fyddai cyflwyno cefnogaeth ariannol i rieni ar y diwrnod cyntaf y maen nhw ei hangen. 

Ar hyn o bryd, gall rieni wneud cais am Lwfans Byw i’r Anabl ar ôl dri mis, ond maen nhw'n aml yn gorfod disgwyl hyd at chwe mis i’r cyllid gael ei gymeradwyo.

Fe lwyddodd Mr a Mrs Menai Davies, o Sir Hertford, i ddenu cefnogaeth drawsbleidiol i fil Cyfraith Hugh, gan gynnwys cefnogaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak yn 2023, ond nid yw'n gyfraith eto.

Dywedodd Ceri Menai-Davis: "Rydym yn gofyn i rieni, yn enwedig y rhai sydd â phlant sy'n cael diagnosis o ganser, dderbyn cymorth ariannol ar y diwrnod cyntaf. 

“Mae'r amser aros yn llawer rhy hir, gan ychwanegu straen a phryder diangen yn ystod cyfnod sydd eisoes yn hynod o anodd," meddai Ceri.

Ers hynny, mae’r elusen wedi gweithio i greu fforwm i weld sut y gallai’r Gwasanaeth Iechyd, Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a gofal cymdeithasol ac iechyd gyd-weithio i ddarparu’r gefnogaeth yma i rieni.

Gyda sylw’r gwleidyddion ar yr etholiad fis nesaf, mae Mr Menai-Davis yn dweud ei fod yn pryderu eu bod wedi gorfod "dechrau o’r dechrau" gyda’u hymdrechion.

Mae’n galw ar y llywodraeth newydd i barhau i gefnogi ymdrechion i greu Cyfraith Hugh, gan ddatgan nad yw Rishi Sunak na Syr Kier Starmer wedi ymateb i geisiadau diweddar am gefnogaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.