Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
13/06/2024
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A40 ddydd Mercher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng cerbyd Volkswagen a beic modur Honda lliw glas a gwyn, rhwng Llanwrda a Llanymddyfri am tua 13.05.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu bellach yn apelio am lygad dystion, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A40 rhwng Llandeilo a lleoliad y gwrthdrawiad rhwng 12.30 a 13.00 i gysylltu â’r llu.
Maen nhw hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â delweddau dashcam neu ddelweddau camera cloch drws i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod DP-20240612-270.
Llun: Google Maps