Etholiad 24: Plaid Cymru yn addo ymladd 'dros degwch ariannol'
Wrth lansio eu maniffesto ddydd Iau, mae Plaid Cymru wedi addo ymladd 'dros degwch ariannol'.
Dywedodd arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth y byddai ei blaid yn "brwydro bob dydd" am £4bn sy'n ddyledus i Gymru o brosiect rheilffyrdd cyflym HS2.
Dywedodd Mr ap Iorwerth hefyd fod pobol yn teimlo nad oeddynt wedi “eu hysbrydoli” gan yr hyn sydd gan y Ceidwadwyr a Llafur i’w gynnig, tra bydd ei blaid yn cynnig “gweledigaeth bositif” i Gymru.
Ychwanegodd y byddai'r blaid yn ailymuno gyda'r Farchnad Sengl, ond nid oedd cyfeiriad at annibyniaeth i Gymru yn ei araith.
Dywedodd: “Fel plaid ryngwladol, yn wahanol i Lafur a’r Torïaid nid oes gennym ni ym Mhlaid Cymru ofn tynnu sylw at y canlyniadau trychinebus o dorri cysylltiadau gyda bloc masnachu mwyaf y byd.
“Rydym wedi bod yn glir, yn gyson ac yn ddiamwys dros y blynyddoedd diwethaf bod ailymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn hanfodol er mwyn lliniaru effaith Brexit ar fusnesau Cymru a lleihau gorbenion a chostau gweinyddol.”
Dywedodd mai’r thema gyson sy’n rhedeg trwy raglen y blaid yw tegwch.
Ychwanegodd y byddai system ariannu decach i Gymru yn caniatáu mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae cynyddu trethi ar hap a datganoli Ystad y Goron i greu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant hefyd yn addewidion allweddol o'r maniffesto.
Fe wnaeth y blaid lansio eu maniffesto fore Iau yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS cyn y lansiad: "Mae’r etholiad hwn am un peth ac yr economi ydi hwnnw.
"Yr hyn sy’n gosod Plaid Cymru ar wahân yw record o beidio â chymryd Cymru’n ganiataol a bob amser yn rhoi buddiannau ein cymunedau a’n cenedl yn gyntaf.
"Rydym yn cynnig dewis amgen go iawn i Gymru.
'Anhrefn'
Mae addewidion allweddol y blaid yn cynnwys:
- Sicrhau'r £4bn "sy'n ddyledus" i Gymru o HS2 i'w fuddsoddi mewn gwella ein trafnidiaeth gyhoeddus ein hunain ym mhob rhan o'r wlad a gwrthdroi toriadau i wasanaethau bysiau lleol.
- Mynnu system ariannu "deg" i Gymru, yn seiliedig ar ei hanghenion, gan "roi'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu haeddu i ni".
- Unioni "anhegwch" economaidd; cynyddu trethi ar rai diwydiannau a datganoli Ystad y Goron er mwyn creu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant.
Mae’r blaid hefyd yn addo amddiffyn a chryfhau’r setliad datganoli yn dilyn ymdrechion diweddar gan bleidiau Llundain i danseilio hunanlywodraeth Cymru.
"Trwy gefnogi teuluoedd a thrwy drosglwyddo pwerau i sicrhau bod mwy o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, byddwn yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ac yn darparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig," meddai Rhun ap Iorwerth.
"I Gymru, mae pedair blynedd ar ddeg o doriadau ac anhrefn gan y Torïaid wedi crebachu ein gwasanaethau cyhoeddus ond does dim arwydd y bydd llywodraeth Llafur yn cynnig unrhyw newid go iawn chwaith.
"Mae ein cymunedau yn gorfod talu’r pris am ddegawdau o danfuddsoddi wrth law y ddwy blaid."
Roedd gan Blaid Cymru bedwar Aelod Seneddol ond mae cwtogi nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 32 yn golygu y bydd hynny'n dalcen caletach yn yr etholiad yma.
Ar ôl newid ffiniau, mae'r Blaid yn amddiffyn dwy etholaeth sef Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
Mae hefyd yn gobeithio ennill dwy sedd darged arall, sef Caerfyrddin ac Ynys Môn.
Llun: PA