Newyddion S4C

Llafur yn bygwth terfynu cytundeb cwmni trenau sy'n gwasanaethu gogledd Cymru

12/06/2024
Avanti West Coast

Mae'r Blaid Lafur wedi dweud y byddan nhw'n ystyried terfynu cytundeb cwmni trenau sy'n gwasanaethu gogledd Cymru.

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr wrthblaid, Louise Haigh, yn honni bod cwmni Avanti West Coast wedi darparu “gwasanaeth truenus” i deithwyr.

Yng Nghymru mae Avanti West Coast yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth trenau o Gaergybi i Euston, Llundain.

Ond mae nifer o bobl wedi bod yn cwyno am y gwasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, roedd Avanti West Coast y trydydd cwmni trenau mwyaf annibynadwy ym Mhrydain yn y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth, gyda’r hyn sy’n cyfateb i un o bob 15 trên (6.9%) wedi’i ganslo.

Fe roddodd y Llywodraeth Geidwadol gytundeb hirdymor newydd i Avanti West Coast, a oedd yn dechrau o fis Hydref 2023.

Mae’r cytundeb yn caniatáu i'r cwmni wasanaethu am hyd at naw mlynedd, ond mae modd ei derfynu gyda thri mis o rybudd ar unrhyw adeg o fis Hydref 2026.

Pan gafodd Ms Haigh ei holi gan Sky News am gynllun Llafur i ddod â gwasanaethau trên o dan berchnogaeth gyhoeddus, dywedodd: “Ein hymrwymiad yw dod â’r cytundebau hynny i mewn wrth iddynt ddod i ben neu pan fyddant yn cael eu torri.

“Rwy’n rhagweld y byddaf yn ceisio cael cyngor yn gynnar ynghylch a yw Avanti wedi bod yn torri ei gontract o ystyried y gwasanaeth truenus y mae wedi bod yn ei ddarparu i deithwyr ar hyd Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin.”

Ychwanegodd Ms Haigh: “Dim os nac oni bai, Hydref 2026 fydd y dyddiad olaf y bydd Avanti yn cael hysbysiad o’r contract hwnnw (yn dod i ben) ond byddaf yn gofyn am gyngor cynnar ynghylch a ydynt eisoes wedi torri eu contract ac a oes modd dod ag ef i mewn yn gynharach.”

Dywedodd llefarydd ar ran Avanti: “Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno ein fflyd Evero newydd sydd wedi rhoi hwb i gapasiti ar y rhwydwaith.

“Mae hyn ynghyd â’n gwaith wrth adnewyddu ar ein trenau Pendolino, cyflwyno gwasanaeth premiwm safonol a’n tocyn Superfare sydd wedi gwella profiad cwsmeriaid ar ein gwasanaethau yn sylweddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.