Newyddion S4C

Cenllysg yn difrodi blaen awyren oedd yn hedfan i Fienna

11/06/2024
Difrod awyren

Fe wnaeth cawod drom o genllysg ddifrod sylweddol i flaen awyren oedd yn hedfan o Mallorca i Fienna.

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos blaen yr awyren Airbus A320 Air Austria ar ôl iddi lanio'n ddiogel yn Fienna ar 9 Mehefin.

Ni chafodd unrhyw deithiwr eu niweidio yn y digwyddiad, ac fe ddywedodd y cwmni awyrennau mai diogelwch y teithwyr oedd y flaenoriaeth drwy gydol y digwyddiad.

Fe wnaeth capten yr awyren alwad frys am gymorth yn ystod y daith yn ôl o'r ynys ar arfordir Sbaen, ond fe laniodd yn ddiogel heb unrhyw broblemau pellach.

Yn y cyfamser mae glaw trwm wedi effeithio ar deithwyr ym maes awyr Palma, Mallorca, ddydd Mawrth.

Daeth dilyw dros yr ardal yn gynharach yn y prynhawn, gan olygu nad oedd modd i awyrennau adael am gyfnod.

Roedd y llifogydd wedi effeithio ar rai hediadau i mewn ag allan o'r maes awyr ac roedd cyngor i deithwyr wirio'u trefniadau gyda'u cwmnïau teithio.

Llun: @exithamster/ X

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.