Newyddion S4C

Macron yn galw etholiad sydyn wedi canlyniad siomedig i'w blaid

11/06/2024

Macron yn galw etholiad sydyn wedi canlyniad siomedig i'w blaid

Wedi llwyddiant plaid Marine Le Pen yn yr etholiadau Ewropeaidd maen nhw nawr yn paratoi at etholiad arall lle y gallai'r wobr fod yn fwy o lawer.

Prin fod neb wedi disgwyl i'r Arlywydd Macron gyhoeddi Etholiad Cyffredinol gan fod y cenedlaetholwyr eithafol wedi cael ddwywaith y bleidlais y cafodd ei blaid o.

Ond mae'n dweud na fedrith o anwybyddu'r hyn sy 'di digwydd.

"Mi oedd hi'n noson anodd i Macron ac yn amlwg mae o 'di teimlo bod rhaid galw etholiadau ar frys oherwydd bod yr asgell dde bell gymaint o'i flaen o yn yr etholiad neithiwr."

Mi allech chi ddadlau mai dyna'r peth dwetha ddylai o wneud?

"Mae 'na lot o bendroni yma be yn union ydy strategaeth Macron.

"Mae'n annhebygol bydd La Rassamblement National er y perfformiad arbennig neithiwr a'r momentwm efo nhw mae'n annhebygol y bydden nhw yn gallu cael mwyafrif yn y Senedd.

"Os byddan nhw'n ffurfio Llywodraeth a chael Prif Weinidog er enghraifft Jordan Bandella sef arweinydd y blaid bydd hi'n anodd iawn iddynt basio unrhyw fath o ddeddfwriaeth.

"Bydd hi'n drafferth tu hwnt."

Dyna mae Macron wedi sylweddoli o bosib.

Roedd y papurau'n llawn son am daranau a daeargrynfeydd o'r math gwleidyddol.

Fe allai llywodraeth newydd fod yn ei lle cyn y Gemau Olympaidd.

"Mae lot o son am lefelau alert o ran ymosodiadau terfysgol hefyd yn ystod y Gemau Olympaidd.

"Mae'n adeg eitha gofidus ac yn lle eitha peryglus os 'dan ni'n meddwl fydd 'na Lywodraeth hollol newydd sbon jyst cyn y gemau."

Fydd hi ddim yn ddiwedd ar yrfa Emmanuel Macron oherwydd mae'r arlywydd yn cael ei ethol ar wahân ac yntau mewn digwyddiad arall heddiw yn coffau colledion yr Ail Ryfel Byd.

Ond os ydy'r gwynt yn hwyliau'r Rassemblement National sy'n gadarn yn erbyn mewnfudo fe allai gweddill cyfnod yr Arlywydd fod yn heriol iawn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.