Gorchymyn Gary Glitter i dalu mwy na £500,000 i un o’i ddioddefwyr
Mae llys wedi gorchymyn Gary Glitter i dalu mwy na £500,000 i un o’i ddioddefwyr.
Roedd y ddynes nad oes modd ei henwi wedi siwio Paul Gadd, ei enw go iawn, ar ôl i lys ei gael yn euog yn 2015 o’i cham-drin hi a dau o bobol ifanc eraill rhwng 1975 a 1980.
Ddydd Mawrth dywedodd yr Ustus Tipples yn yr Uchel Lys ei bod yn gwobrwyo £500,000 i’r ddynes.
"Nid oes amheuaeth ei bod hi wedi dioddef cam-drin rhywiol o’r math mwyaf difrifol gan y diffynnydd pan oedd ond yn 12 oed,” meddai’r barnwr.
“Mae hynny wedi cael effaith andwyol sylweddol iawn arni am weddill ei bywyd.”
Roedd y swm yn cynnwys £381,000 mewn enillion a gollwyd a £7,800 am therapi a thriniaeth.
Clywodd yr Uchel Lys ym mis Mawrth nad oedd hi wedi gallu gweithio am sawl degawd o ganlyniad i’r gamdriniaeth.
Cafodd Gary Glitter ei garcharu am 16 mlynedd yn 2015 am gam-drin tair merch ysgol yn rhywiol.
Cafodd ei ryddhau o garchar ym mis Chwefror y llynedd ond cafodd ei garcharu unwaith eto chwe wythnos yn unig yn ddiweddarach am dorri amodau ei drwydded.