Gohirio Hanner Marathon Caerdydd tan 2022

Hanner Marathon Caerdydd
Mae trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad yn cael ei ohirio tan 2022.
Roedd disgwyl i'r ras gymryd lle yn y brifddinas ar 3 Hydref, ond mae bellach wedi'i aildrefnu ar gyfer 27 Mawrth, 2022. Dyma'r trydydd tro i'r digwyddiad gael ei ohirio yn sgil pandemig Covid-19.
Cynhaliwyd y digwyddiad diwethaf yn Hydref, 2019, gyda 25,000 o redwyr yn cymryd rhan.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr R4W sydd yn trefnu'r digwyddiad, fod "holl ansicrwydd" ynghylch Covid-19 yn mynnu bod rhaid gohirio HMC 2021 hyd at wanwyn 2022.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Sum_of_Marc