Cwmni hedfan i gynnig iawndal i'r rhai gafodd eu hanafu mewn awyren
Mae cwmni hedfan wedi dweud y byddant yn cynnig iawndal i'r rhai gafodd eu hanafu wedi taith awyren o Heathrow i Singapore ym mis Mai.
Mewn datganiad, dywedodd Singapore Airlines eu bod yn cynnig talu $10,000 (£7,800) i'r rhai a gafodd anafiadau llai difrifol.
I'r rhai a gafodd rhai mwy difrifol, dywedodd y cwmni hedfan eu bod yn "darparu taliad o $25,000 i helpu gyda'u hanghenion brys".
Maent hefyd yn dweud bod rhagor o drafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn "mynd i'r afael â'u hamgylchiadau penodol".
Bu farw teithiwr 73 oed o Brydain ac fe gafodd dwsinau yn fwy o bobl eu hanafu wedi i hediad SQ 321 brofi tyrfedd (turbulence) difrifol dros Myanmar.
Y gred yw bod Geoff Kitchen wedi cael trawiad ar y galon.
Roedd yn rhaid i'r awyren lanio ar frys yng Ngwlad Thai.
Fe gafodd mwy na 100 o bobl a oedd ar yr awyren eu trin mewn ysbyty yn Bangkok wedi'r digwyddiad.
Dywedodd y cwmni y byddant yn cynnig ad-daliad llawn i bob teithiwr ar yr awyren, gan gynnwys y rhai na gafodd anafiadau.
Mewn datganiad ar y pryd, fe wnaeth pennaeth Singapore Airlines, Goh Choon Phong, “ymddiheuro am y profiad trawmatig” i’r rhai oedd ar yr awyren SQ 321.
Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Kitchen ac y byddai "pob cymorth posib” yn cael ei rhoi i deithwyr ac aelodau’r criw.