Arestio 11 o ddynion ar amheuaeth o geisio llofruddio
Mae 11 o ddynion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i ddau o ddynion gael eu trywanu.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger Parc Rawnsley, Easton ym Mryste tua 4.40 oriau man dydd Sul, meddai Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
Cafodd dau ddyn yn eu hugeiniau eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau trywanu.
Nid yw anafiadau’r dynion yn peryglu eu bywydau, ond mae un dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol.
Mae 11 o ddynion yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae pwerau ychwanegol i stopio a chwilio pobl bellach mewn grym mewn rhannau o Fryste, meddai’r llu.
Fe ddaeth y pwerau i rym am 19.00 nos Sul ac mae disgwyl iddyn nhw barhau am 24 awr.