Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

01/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C. 

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Iau, 1 Gorffennaf.  

Newidiadau i gynllun ffyrlo yn dod i rym

Fe fydd cefnogaeth ariannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gostwng o 80% i 70% ar ddiwrnod cyntaf mis Gorffennaf. Daw hyn er gwaethaf galwadau ar y Canghellor Rishi Sunak i ymestyn y cynllun pe bai yna gyfnod clo arall. O 1 Gorffennaf, fe fydd y llywodraeth yn talu 70% o gyflogau pobl, a hynny hyd at £2,187.50 y mis, ac fe fydd angen i gyflogwyr dalu 10% gan alluogi i weithwyr dderbyn 80% o’u cyflogau.

Heddlu wedi torri 'hawliau sylfaenol' yn ystod gwylnos Sarah Everard medd ymchwiliad - Sky News

Mae ymchwiliad seneddol wedi darganfod fod yr heddlu wedi torri "hawliau sylfaenol" wrth ymdrin â gwylnos i gofio Sarah Everard yn Llundain a phrotest ym Mryste. Yn ôl adroddiad Grŵp Seneddol Holl Bleidiol ar Ddemocratiaeth a'r Cyfansoddiad (APPGDC), roedd Heddlu Llundain a llu Avon a Gwlad yr Haf wedi "methu â deall eu dyletswyddau cyfreithiol o ran protestiadau".  

Cyfyngiadau'n cael 'effaith mawr' ar briodasau

Mae cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi cael “effaith mawr” ar gwmnïau priodasol Cymru, yn ôl perchennog busnes yn y maes. Dan reoliadau presennol Llywodraeth Cymru mae angen i leoliadau gynnal asesiad risg gan gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws. Dywedodd Meirion Dyer, sy’n berchen ar Fferm Caerhyn, yn Llangadog eu bod nhw ond wedi cynnal tair priodas yno ers dechrau’r pandemig.

Llywodraeth Cymru yn penodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt newydd yng Nghymru - swydd gyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig.  Fe fydd Rob Taylor, a oedd yn gyfrifol am sefydlu Tîm Troseddau Cefn Gwlad presennol Heddlu Gogledd Cymru, yn amlinellu ei flaenoriaethau ddydd Iau yn dilyn ei benodiad i'r swydd. Crëwyd y swydd gan Lywodraeth Cymru ynghyd â heddluoedd Cymru i atgyfnerthu'r ymateb i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt ledled y wlad.

Ailagor orielau'r Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf ers dros flwyddyn - Golwg360

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfeydd unwaith eto dros yr haf, am y tro cyntaf ers dros flwyddyn. Yn ôl Golwg360, fe fydd yr arddangosfeydd yn ailagor ar ddydd Llun 19 Gorffennaf, a bydd rhaid i ymwelwyr archebu tocynnau o flaen llaw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.