Ailagor orielau’r Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf ers dros flwyddyn
01/07/2021
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfeydd unwaith eto dros yr haf, am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.
Yn ôl Golwg360, fe fydd yr arddangosfeydd yn ailagor ar ddydd Llun 19 Gorffennaf, a bydd rhaid i ymwelwyr archebu tocynnau o flaen llaw.
Yn ogystal â chael cyfle i weld Oriel Gregynog, sydd wedi cael ei hadnewyddu’n ddiweddar, bydd tair arddangosfa arall ar gael i’w gweld yn yr orielau. Bydd eitemau newydd yn cael eu harddangos yn barhaol ar lawr gwaelod y Llyfrgell yn ardal Peniarth hefyd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: csmramsden