Newyddion S4C

Newidiadau i gynllun ffyrlo yn dod i rym

01/07/2021
Staff gweini

Fe fydd cefnogaeth ariannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gostwng o 80% i 70% ar ddiwrnod cyntaf mis Gorffennaf.

Daw hyn er gwaethaf galwadau ar y Canghellor Rishi Sunak i ymestyn y cynllun pe bai yna gyfnod clo arall. 

O 1 Gorffennaf, fe fydd y llywodraeth yn talu 70% o gyflogau pobl, a hynny hyd at £2,187.50 y mis, ac fe fydd angen i gyflogwyr dalu 10% gan alluogi i weithwyr dderbyn 80% o’u cyflogau.

Mae disgwyl i’r cynllun, a oedd yn sicrhau cefnogaeth ariannol i fusnesau a gweithwyr yn ystod y pandemig ddod i ben yn gyfan gwbl ym mis Medi.

Mewn ymateb i’r newidiadau i’r cynllun ffyrlo, dywedodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake: “O ystyried y risgiau parhaus i iechyd y cyhoedd, mae llywodraethau Cymru a’r DU yn gywir i ddilyn y data, yn hytrach na dyddiadau, wrth leddfu’r cyfyngiadau.

“Ond pan mae’n dod i gefnogaeth ariannol, mae'r Trysorlys yn glynu'n gaeth at ddyddiadau er bod ansicrwydd mawr yn parhau dros yr economi.

“Gyda’r risg barhaus o ansefydlogrwydd economaidd, mae’n hanfodol bod y Trysorlys yn cadw ymagwedd sydd yn mor hyblyg â phosib os ydyn nhw o ddifrif am gefnogi pobl a busnesau allan o’r argyfwng.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.