Newyddion S4C

Heddlu wedi torri 'hawliau sylfaenol' yn ystod gwylnos Sarah Everard medd ymchwiliad

Sky News 01/07/2021
Unsplash

Mae ymchwiliad seneddol wedi darganfod fod yr heddlu wedi torri "hawliau sylfaenol" wrth ymdrin â gwylnos i gofio Sarah Everard yn Llundain a phrotest ym Mryste. 

Yn ôl adroddiad Grŵp Seneddol Holl Bleidiol ar Ddemocratiaeth a'r Cyfansoddiad (APPGDC), roedd Heddlu Llundain a llu Avon a Gwlad yr Haf wedi "methu â deall eu dyletswyddau cyfreithiol o ran protestiadau".  

Daeth pobl ynghyd yn Clapham Common i gynnal gwylnos er cof am Sarah Everard, dynes 33 oed y cafwyd hyd i'w chorff ar ôl iddi ddiflannu yn mis Mawrth. 

Mae Wayne Couzens, a oedd yn swyddog i Heddlu Llundain ar y pryd, wedi pledio'n euog i herwgipio a threisio Ms Everard.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.