Newyddion S4C

'Gŵr hyfryd': Gwraig Dr Michael Mosley yn rhoi teyrnged wedi i'w gorff gael ei ddarganfod

09/06/2024

'Gŵr hyfryd': Gwraig Dr Michael Mosley yn rhoi teyrnged wedi i'w gorff gael ei ddarganfod

Mae gwraig y darlledwr Dr Michael Mosley wedi rhoi teyrnged i'w "gŵr doniol, caredig, hyfryd" ar ôl i'w gorff gael ei ddarganfod ar ynys Symi yng Ngwlad Groeg.

Roedd Mr Mosley wedi mynd ar goll ar yr ynys ddydd Mercher.

Ar ôl ymdrechion gan yr heddlu a chriwiau tân ac achub i ddod o hyd iddo am bedair diwrnod, cafwyd hyd i gorff fore Sul yn agos at ogofau ger pentref Pedi, tua 10 metr o’r môr.

Mewn datganiad prynhawn dydd Sul, fe wnaeth gwraig Michael Mosley, Dr Clare Bailey Mosley, gadarnhau mai corff ei gŵr oedd wedi ei ddarganfod.

Dywedodd Dr Bailey Mosley bod ei gŵr wedi "cwympo" ar ôl ceisio dringo'r creigiau.

Ychwanegodd ei bod wedi ei “chwalu” gyda’r golled ond fod y teulu’n “cymryd cysur yn y ffaith ei fod bron iawn wedi llwyddo” gyda'r ddringfa.

Mewn datganiad, dywedodd Dr Bailey Mosley, sy’n feddyg teulu ac yn awdur coginio: "Gwnaeth ddringfa anhygoel, cymerodd y llwybr anghywir a chwympo lle nad oedd yn hawdd i'r tîm chwilio ei weld.

"Roedd Michael yn ddyn oedd yn llawn antur a dyna oedd yn ei wneud mor arbennig. 

"Cawsom fywyd hynod o ffodus gyda'n gilydd. Roedden ni'n caru ein gilydd yn fawr ac mor hapus gyda'n gilydd.

“Mae fy nheulu a minnau wedi’n cysuro’n fawr gan y cariad sy’n cael ei rannu gan bobl o bob rhan o’r byd. Mae’n amlwg bod Michael wedi golygu llawer iawn i gynifer ohonoch.

'Diolchgar'

Fe ychwanegodd: "Rydym mor ddiolchgar i'r bobl hynod ar Symi sydd wedi gweithio'n ddiflino i helpu i ddod o hyd iddo. 

"Roedd rhai o'r bobl hyn ar yr ynys, nad oeddent hyd yn oed wedi clywed am Michael, yn gweithio pob awr o'r dydd heb ofyn iddynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r wasg sydd wedi delio â ni gyda pharch mawr.

"Rwy'n teimlo mor lwcus i gael ein plant a fy ffrindiau anhygoel. Yn bennaf oll, rwy'n teimlo mor ffodus i fod wedi cael y bywyd hwn gyda Michael."

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y corff wedi ei ddarganfod ar arfordir creigiog gan gwch preifat.

Ychwanegodd maer Symi fod y corff wedi ei ddarganfod wrth i dimau chwilio’r arfordir gyda chamerâu ac yn agosáu at ogof yn agos i draeth Agia Marina.

Image
Symi
Meddygon a heddweision yn cyrraedd Agia Marina (Llun: PA)

Dywedodd ffynhonnell heddlu wrth y BBC fod y person wedi bod yn farw ers "sawl dydd".

Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw arwyddion o anaf ar y corff meddai'r maer wrth Sky News.

Mae crwner bellach wedi archwilio'r corff.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu Konstantia Dimoglidou bod yn rhaid i'r awdurdodau ddiystyru unrhyw bosibilrwydd bod y farwolaeth o ganlyniad i weithred droseddol.

"Mae angen i ni gael cipolwg cyntaf ar achosion marwolaeth ac a oedd wedi digwydd cyn i'r person gwympo i’r llawr,” meddai.

Mynd ar goll

Cafodd Dr Mosley, oedd yn aml yn ymddangos ar raglenni fel This Morning, ei weld am y tro diwethaf ddydd Mercher.

Dywedir ei fod wedi cychwyn ar daith gerdded o draeth Saint Nicholas tua 1.30pm amser lleol ond methodd â dychwelyd adref.

Dywedodd heddlu Gwlad Groeg fod y darlledwr wedi gadael ei wraig ar draeth cyn cychwyn ar daith gerdded i ganol yr ynys.

Yn ôl y llu, cafwyd hyd i ffôn Dr Mosley lle’r oedd yn aros gyda’i wraig.

Mae Dr Mosley yn adnabyddus i wylwyr This Morning a The One Show am rannu cyngor ar sut i gadw’n iach ac yn heini.

Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres BBC, Trust Me, I’m a Doctor ac ar y podlediad, Just One Thing.

Tristwch ar draeth Agia Marina

Mae Eiri Stephen o Aberystwyth, a’i gŵr, wedi ymweld â Symi bob blwyddyn ers 1998.

Mae hi’n dweud iddi weld hofrennydd yn hedfan uwchben dros y dyddiau diwethaf yn ystod yr ymdrechion i ddod o hyd i Dr Mosley.

Image
Symi
Heddweision yn sefyll yn agos i ble gafodd y corff ei ddarganfod (Llun: PA)

Ers darganfod y corff, mae presenoldeb yr heddlu wedi cynyddu meddai, ac mae yna deimlad o “dristwch” ar draeth Agia Marina.

Dywedodd Ms Stephen: “Aeth Dr Mosley ar goll ddydd Mercher ac mae pob ymdrech 'di mynd allan ers hynny i ffeindio fe a gobeithio cael newyddion da.

"Ond heddi, mae newyddion drwg ac mae’n debyg iddyn nhw, yn ôl pob sôn, ffeindio corff.  Mae fe 'di bod yna ers rhai dyddiau, mae'n debyg.

“Mae press o bob cwr o'r byd wedi dod yma heddiw a fi'n credu bod nhw'n yn edrych fel petai bod nhw'n witchad am ddoctoriaid, i ddod i weld y corff.

“Mae'n siŵr o fod ryw 20 o police dal o gwmpas, ac mae llongau yn dod i mewn o hyd yn dod a wahanol bobl a stretchers a phethau fel 'ny.

“Mae Symi wedi cael ryw fath o mini heatwave ers dydd Mercher, so mae wedi bod dros 40 gradd yma, ac mae hi yn boeth. Mae'n boeth yma heddi a ddaru ni weld un o'r policemen yn edrych fel petai e wedi ffeintio cyn nawr, so mae yn boeth.

Image
symi
Traeth Agia Marina (Llun: PA)

“Mae’n ynys dawel a phert dros ben, a’r bobl leol bob amser yn gyfeillgar a hael tuag atom. Mae’n sioc gweld shwt gymaint o bobl o gwmpas yn enwedig y cyfryngau, heddlu ac yn y blaen.”

“Mae’n anodd gwybod beth sydd wedi digwydd ond mae'r traeth yma fel arfer yn llawn ymwelwyr a pawb yn mwynhau, ond heddi mae fe dipyn tristach.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.