Ffyrdd wedi cau yn Abertawe ar gyfer ras hanner marathon
Roedd ffyrdd wedi eu cau yn Abertawe fore dydd Sul wrth i ras hanner marathon gael ei chynnal.
Roedd disgwyl i filoedd o redwyr gymryd rhan yn y digwyddiad oedd wedi cychwyn a gorffen tu allan i Arena Abertawe wrth y marina yng nghanol y ddinas.
Fe wnaeth y rhedwyr ddilyn cwrs 13.1 milltir ar hyd y bae tuag at y Mwmbwls cyn troi nôl a thrwy’r ddinas i’r llinell derfyn.
Roedd yr hanner marathon yn cychwyn am 09:00 gyda’r ras cadeiriau olwyn am 08:55.
Dyma’r degfed tro i’r ras gael ei chynnal ac mae trefnwyr wedi gofyn i deithwyr fod yn ymwybodol o’r ffyrdd sydd wedi cau i osgoi unrhyw anghyfleustra.
Mae’r manylion am y ffyrdd oedd wedi cau i’w cael yma.