Newyddion S4C

Cymru v Slofacia: 'Angen ymateb efo tîm cryfach'

09/06/2024
Page

Gyda'r pwysau yn cynyddu ar Rob Page, fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn gobeithio am well perfformiad a chanlyniad na'r gêm gyfartal yn erbyn Gibraltar pan y byddan nhw'n wynebu Slofacia nos Sul.

Bydd Cymru yn teithio i Trnava i herio Slofacia mewn gêm gyfeillgar arall, gyda'r gic gyntaf am 19.45.

Gêm gyfartal ddi-sgôr oedd hi i Gymru yn erbyn Gibraltar ddydd Iau, gyda'r tîm cartref yn safle 203 allan o 210 o wledydd ar restr detholion y byd FIFA. 

Er mai Cymru oedd y ffefrynnau, ni lwyddodd tîm Rob Page i ganfod y rhwyd yn ystod y 90 munud, gyda Gibraltar yn llwyddo i ddal ymlaen am y gêm gyntaf iddyn nhw beidio a'i cholli ers dros 18 mis. 

Roedd Page wedi dewis tîm amhrofiadol i ddechrau’r gêm, gyda Josh Sheehan yn gapten ar ei bumed ymddangosiad, tra bod pum chwaraewr arall yn ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad.

Mae Ethan Ampadu wedi ei ddewis yn gapten ar gyfer y gêm nos Sul, yn erbyn gwrthwynebwyr o safon uwch na Gibraltar, sydd yn paratoi i gymryd rhan yn UEFA Euro 2025 wythnos nesaf.

Ni fydd yr amddiffynwyr profiadol Ben Davies a Chris Mepham yn chwarae oherwydd anafiadau.

Dywedodd cyn-chwaraewr Cymru Owain Tudur Jones ar ôl y gêm yn erbyn Gibraltar: "Mae angen ymateb efo tîm cryfach yn erbyn Slofacia a wedyn ma'r gemau pwysig, y rhai cystadleuol sydd i ddod yn hwyrach yn y flwyddyn. 

"Wrth gwrs, fyddan ni'n gwybod wedyn os fydd Rob Page yn aros ar gyfer y gemau Cwpan y Byd."

'Cefnogi'r rheolwr yn llawn'

Ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth rhai o gefnogwyr Cymru oedd yn y gêm ddangos eu siomedigaeth gyda'r canlyniad, gan ddechrau bŵio Rob Page. 

Mae rhai o chwaraewyr Cymru wedi cynnig eu cefnogaeth i Rob page wedi ymateb y cefnogwyr nos Iau. 

Dywedodd gôl-geidwad Wolverhampton Wanderes Tom King, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru wrth ddod ymlaen yn yr ail hanner: "Rydym ni'n cefnogi'r rheolwr yn llawn. Rydym ni'n cefnogi bob dim y mae o a'i staff yn ei wneud.

"Dwi ddim yn meddwl bod modd cyfiawnhau y bŵio ond rydym ni'n dioddef oherwydd ein llwyddiannau. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y blynyddoedd diwethaf. Roeddem ni un gic i ffwrdd o bencampwriaeth arall."

Ychwanegodd chwaraewr canol cae Ipswich Town Wes Burns: "Mae'n bechod am y bŵio, mae hynny yn rhoi staen ar fy ngêm gyntaf i ryw raddau, ond mae gan y cefnogwyr yr hawl i'w barn. Maen nhw eisiau gweld goliau ac maen nhw wedi teithio yn bell."

Wrth gael ei holi os yr oedd ef a gweddill y garfan yn cefnogi Page, dywedodd Burns: "Ydyn, 100%. Mae wedi gwneud pethau anhygoel gyda'r grŵp yma. Ar ôl i chi fod mor llwyddiannus yn y blynyddoedd a fu, mae pobl yn cymryd yn ganiataol eich bod chi wastad am wneud yn dda."

Bydd y gêm rhwng Slofacia a Chymru yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C, gyda'r gic gyntaf am 19.45.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.