Dyn yn euog o achosi marwolaeth seren Triathlon drwy yrru’n beryglus
Mae dyn o’r Fenni fu mewn gwrthdrawiad a laddodd y seren triathlon Rebecca Comins wedi ei gael yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Cafwyd Vasile Barbu, 49 oed, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Roedd Barbu yn gyrru fan Vauxhall Movano wen ar ffordd yr A40 ger Rhaglan ar ddydd Iau 2 Mehefin cyn bod mewn gwrthdrawiad gyda Rebecca Comins.
Bu farw yn y fan a'r lle.
Yn dilyn yr euogfarn, mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn "wraig wych i Stephen ac yn fam i George a Millie a bydd colled fawr ar ei hôl".
“Roedd Beckie yn hynod garedig ac yn ysbrydoliaeth i gymaint," medden nhw.
"Mae ei heffaith ar fywydau pobl ledled y gymuned leol a chwaraeon wedi dod yn arbennig o amlwg gan y toreth o deyrngedau ac atgofion a rannwyd ers ei marwolaeth.
“Roedd hi’n caru ei theulu, ffrindiau a chwaraeon a hi oedd y person cyntaf i gynnig cymorth a chyngor.
“Rydym mor falch o’r hyn a gyflawnodd yn ei bywyd."
'Poen'
Ychwanegodd ei theulu: “Newidiodd ein bywydau am byth pan gollon ni Beckie ar 2 Mehefin 2022.
"Ni fydd y dyfarniad byth yn dod â Beckie yn ôl.
“Ni all unrhyw eiriau ddisgrifio ein poen gan wybod na fyddwn byth yn ei gweld yn chwerthin ac yn gwenu eto. Rydyn ni'n ei cholli hi gymaint a bydd hi yn ein calonnau am byth."
Bydd Vasile Barbu yn cael ei ddedfrydu ar ddyddiad i'w benderfynu.
Llun teulu