Newyddion S4C

Cynnig cyflog newydd i feddygon Cymru

07/06/2024
Streic meddygon iau Cymru

Mae undeb meddygon y BMA wedi sichrau cynigion cyflog newydd i feddygon gan Lywodraeth Cymru.

Bydd meddygon gofal eilaidd yng Nghymru sy'n aelodau o'r BMA yn pleidleisio i benderfynu a fyddan nhw'n derbyn y cynigion yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae'r cynigion cyflog wedi eu cyflwyno i feddygon iau, meddygon arbenigol ac arbenigwyr cyswllt (SAS), yn ogystal â meddygon ymgynghorol.

Mae meddygon iau wedi cael cynnig codiad cyflog ychwanegol o 7.4%, sy'n golygu bod cyfawnswm eu codiad cyflog yn 12.4% ar gyfer blwyddyn ariannol 23/24 ac yn cael ei ddyddio'n ôl i Ebrill 2023.

Ar gyfer meddygon SAS, mae cynigion cyflog ar gyfer contractau mwy newydd yn cynnwys cynnydd o 6.1-9.2%, yn ogystal â chodiad ychwanegol ar gyfer arbenigwyr cyswllt - uwch feddygon sydd ar gontractau caeedig.

Ac mae graddfa gyflog ddiwygiedig wedi cael ei chynnig i feddygon ymgynghorol, a fyddai'n eu darparu gyda chyflog cychwynnol gwell, enillion uwch, a chodiad cyflog ychwanegol o hyd at 10.1% ar gyfer rhai meddygon ymgynghorol.

Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys elfennau nad ydynt yn ymwneud â chyflog, yn ogystal â diwygio graddfeydd cyflog a thelerau contract.

Daw'r cynigion yn dilyn wythnosau o drafodaethau cyflog rhwng BMA Cymru a Llywodraeth Cymru.

Fe ddechreuodd y trafodaethau ym mis Ebrill yn dilyn streic 10 diwrnod gan feddygon iau.

Gohiriwyd streic deuddydd a drefnwyd gan feddygon ymgynghorol a meddygon arbenigol er mwyn galluogi'r trafodaethau i ddechrau.

Dywedodd Dr Oba Babs Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau Cymru y BMA, eu bod yn annog meddygon i dderbyn y cynnig.

“Fe wnaethom ddechrau trafodaethau cyflog i gyrraedd bargen a fydd yn ein rhoi ar y llwybr i adfer cyflog llawn i fynd i’r afael â’r blynyddoedd o erydiad i’n cyflog. Rydym yn fodlon bod y cynnig hwn yn cyflawni ein huchelgais. Mae'r cynnig hwn yn ein rhoi ar y llwybr i gael adfer tâl, medden nhw.

“Rydym felly’n annog aelodau i bleidleisio i dderbyn y fargen hon. Mae’n destament i’r penderfyniad y maent wedi’i ddangos wrth gymryd rhan mewn gweithred ddiwydiannol i sicrhau dyfodol gwell i’r proffesiwn

'Ar derfyn ein fforddiadwyedd'

Mewn datganiad ar y cyd ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething a’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Er bod streic wedi’i ohirio yn ystod y trafodaethau, os caiff y cynigion hyn eu derbyn, bydd yn dod â’r anghydfod a’r gweithredu diwydiannol hwn i ben, gan olygu y bydd meddygon yn dychwelyd i weithio yng Nghymru er budd cleifion a gwasanaethau’r GIG.

Bydd aelodau'r BMA yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn y cynnig rhwng 12 Mehefin a 26 Mehefin 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.