Gŵyl Cefni yn codi pris am y tro cyntaf er mwyn sicrhau 'tyfiant' y digwyddiad
Gŵyl Cefni yn codi pris am y tro cyntaf er mwyn sicrhau 'tyfiant' y digwyddiad
Bydd yn rhaid i ymwelwyr dros 18 oed dalu am fynediad i Ŵyl Cefni am y tro cyntaf eleni, wrth i drefnwyr geisio "sicrhau" tyfiant yr ŵyl.
Ers 2000, mae’r ŵyl wedi bod yn un o brif ddigwyddiadau cerddorol Ynys Môn, ac eleni bydd yn cael ei hehangu i ddwy noson o gerddoriaeth.
Dafydd Iwan, Mojo a Celt sydd yn perfformio ar lwyfan ym maes parcio Neuadd y Dref nos Wener, tra bod Bwncath, Fleur de Lys, Y Cledrau a Ffatri Jam ymhlith y bandiau fydd yn perfformio ddydd Sadwrn.
Daeth 6,000 o bobl i’r digwyddiad y llynedd, oedd yn cael ei gynnal ar y dydd Sadwrn yn unig, ac mae trefnwyr yn gobeithio am "lwyddiant" tebyg dros y penwythnos.
“Dw i’n meddwl dyna’r prysuraf dw i erioed 'di gweld Llangefni,” meddai Catrin Lois Jones, rheolwr iaith a chymuned Menter Môn sydd yn rhan o’r tîm sydd yn trefnu’r digwyddiad.
“Gafo’n ni awyrgylch grêt a gymaint o bobl ifanc hefyd yn dod ac yn mwynhau’r ŵyl.
“Oeddan ni’n cael llwyth o bobl ifanc doedd erioed 'di clywed cerddoriaeth Cymraeg yn mynd ati ac yn mynd yn ôl i’r ysgolion ac isho gwrando ar fwy o gerddoriaeth Cymraeg.
“Felly mae gallu dangos bod y Gymraeg yn rhywbeth cymdeithasol hefyd yn rhywbeth ofnadwy o bwysig i’r bobl ifanc ac odd hynna’n un o’r pethau mwya' am yr awyrgylch.”
'Sicrhau'r dyfodol'
Mae’r wŷl yn cael ei hariannu gan grantiau drwy brosiect Balchder Bro Menter Môn, allan o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Ond am y tro cyntaf eleni, wrth i Ŵyl Cefni gael ei chynnal am y 22ain tro, fe fydd yn rhaid i oedolion dalu £5 y dydd i gael mynediad. Bydd y digwyddiad yn parhau am ddim i bobl sydd o dan 18 oed.
Ychwanegodd Catrin Lois Jones: “Mae’n gyfnod ansicr yn ariannol, yn enwedig efo dibynnu ar grantiau a ballu, a 'da ni eisiau gwneud yn siŵr bod ni’n gallu parhau i sicrhau bod Gŵyl Cefni yn digwydd a bod o’n parhau i dyfu.
“Felly oedd trio sicrhau ein bod ni’n codi pris isel iawn, 'da ni’n gobeithio, ar bob oedolyn sy’n mynychu, yn gwneud y gwahaniaeth ‘na o’r rhan cael ychydig o bres wrth gefn wedyn wrth i ni drio tyfu’r ŵyl a gwneud yn siŵr bod o’n digwydd.
“Ond dw i’n meddwl elfen bwysig iawn i ni oedd ein bod ni’n gallu cadw fo am ddim i bawb o dan 18 hefyd, i wneud yn siŵr bod ni’n rhoi’r cyfle cyntaf a’r blas cyntaf i bobl ifanc o’r Gymraeg a cherddoriaeth Gymraeg.
“Dw i’n meddwl wrth roi’r cam yma mewn lle, wrth roi pris mynediad isel, bo ni’n gallu trio osgoi’r ansicrwydd na tuag at y dyfodol, a bod gennyn ni rywbeth wrth gefn os ydy grantiau yn mynd yn brin, bod ni un cam ymlaen yn lle disgwyl tan bod ni'n stryglo am grant, er mwyn gwneud yn siŵr bod o’n gallu parhau.
"Felly dyna 'di’r gobaith, bod ni’n codi pris mynediad isel er mwyn sicrhau bod o’n parhau yn y dyfodol.”
'Dod â busnes i Langefni'
Ac mae cyfraniad y digwyddiad i’r dref yn amlwg, yn ôl Ms Jones.
“O’r rhan digwyddiadau Cymraeg cymdeithasol, dw i’n meddwl bod o'r mwyaf ar yr ynys, a 'da ni’n gweld pobl dros yr ynys i gyd yn dod i gefnogi, ond 'da ni hefyd yn denu eitha' dipyn o bobl o dros y bont i ymuno efo ni.
“Dw i’n meddwl bod blwyddyn dwythaf 'di neud i bobol sylwi faint mae Gŵyl Cefni yn gynnig i dref Llangefni, yn enwedig i allu symud hi i’r maes parcio, yn amlwg oedd ganddon ni fwy o bobl yn dod i’r ŵyl yn gyffredinol.
“Felly oedd gen ti bobl oedd yn gwario yn y siopau, gwario yn y caffis, a llefydd bwyta ar y stryd.
"'Da ni hefyd yn gorffen yr ŵyl am 10 o’r gloch y nos felly mae pobl yn mynd wedyn i gefnogi’r tafarndai lleol, felly yn sicr mae’n dod â busnes i Langefni hefyd.”