Newyddion S4C

Perygl y gallai Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder

05/06/2024
Vaughan Gething

Mae perygl y gallai y Prif Weinidog Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher oherwydd absenoldeb dau o aelodau ei blaid ei hun.

Y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi llunio’r cynnig o ddiffyg hyder ar ôl cyfnod cythryblus i’r Prif Weinidog.

Mae cwestiynau wedi eu codi ar ôl i Mr Gething dderbyn rhodd ariannol ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni oedd a’i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Yn ôl Vaughan Gething dydy o ddim wedi torri unrhyw reolau.

Mae hefyd wedi gwrthod dangos unrhyw dystiolaeth ynglŷn â pham y gwnaeth o ddiswyddo’r AS Hannah Blythyn o’i lywodraeth. Roedd yn honni ei bod hi wedi rhannu gwybodaeth â’r wasg.

Wrth agor y drafodaeth ddydd Mercher, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T Davies, nad oedd y cynnig o ddiffyg hyder yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, nac ychwaith y grwp Llafur na'r blaid Lafur. Yn hytrach roedd yn ymwneud â'r modd roedd Vaughan Gething wedi ymddwyn yn ei gyfnod fel Prif Weinidog, ac yn ystod yr ymgyrch i fod yn areinydd y Blaid Lafur Gymreig.

'Tryloywder'

"Mae hyn yn ymwneud â'i benderfyniadau, trylowyder a gonestrwydd," meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod Cymru ar y cyfan wedi bod yn ffodus i fod wedi osgoi sgandalau ariannol difrifol yn ystod 25 mlynedd cyntaf datganoli.

Ond ychwanegodd: "Mae heddiw yn ddiwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd am ein bod ni o'r farn fod y Prif Weinidog  nid yn unig wedi colli ein hyder ni ond wedi colli hyder dinsasyddion Cymru."

Ond dywedodd Vikki Howells o'r Blaid Lafur fod cynnig y Ceidwadwyr yn "wleidyddiaeth ar ei waethaf - "gimmick" sinicaidd i dynnu sylw oddi ar Rishi Sunak a'i gyfeillion cyfoethog."

Roedd Vaughan Gething yn ymddangos yn ei ddagrau yn ystod araith Ms Howells.

Awgrymodd aelod Llafur arall, Hefin David, fod lliw croen Vaughan Gething yn ffactor yng nghymhellion rhai pobl "y tu allan i'r  Siambr" oedd eisiau ei "dorri".

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.