Newyddion S4C

Oedi cyn cyflwyno newidiadau i wyliau'r ysgol

04/06/2024
Ysgol

Bydd oedi i'r cynlluniau i newid strwythur y flwyddyn academaidd mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru. 

Nod cynlluniau Llywodraeth Cymru oedd cwtogi wythnos oddi ar wyliau'r haf, gan ychwanegu wythnos at wyliau hanner tymor yr hydref.  

Roedd disgwyl i’r newidiadau ddod i rym yn 2025, ond bellach does yna ddim disgwyl iddyn nhw gael eu gweithredu hyd nes y tymor seneddol nesaf. 

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, pwrpas yr oedi yw sicrhau bod gan athrawon a staff eraill “ddigonedd o amser” i gyflwyno diwygiadau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys cwricwlwm newydd i Gymru yn ogystal ag ailwampio’r cynllun ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd y cynlluniau gwreiddiol i newid strwythur gwyliau ysgolion wedi “hollti barn,” esboniodd Ms Neagle. 

“Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i wrando ac ymgysylltu ag ysgolion, athrawon, undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ynglŷn â’r ffordd orau i ni gyflwyno unrhyw newidiadau yn y dyfodol,” meddai. 

Fe ddaw’r tro pedol gan y llywodraeth wedi’r cyfnod ymgynghori mwyaf ar addysg, a ddenodd dros 16,000 o ymatebion.

'Croesawu'

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan rai undebau athrawon, gyda'r cynrychiolwyr hynny'n dweud nad oes modd “rhuthro” newid o’r fath. 

Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, Eithne Hughes ei bod yn “falch” o glywed y cyhoeddiad. 

“Fel y gwnaeth yr ymgynghoriad brofi, ac fel roedden ni eisoes yn gwybod, does dim galwad unfrydol gan rieni nac athrawon i newid gwyliau’r ysgol,” meddai. 

Dywedodd ysgrifennydd cenedlaethol Undeb yr NAHT, Laura Doel bod y corff wedi gwrthwynebu’r cynlluniau “ers y dechrau.”

Dywedodd bod angen i benderfyniadau ar y fath raddfa fod yn seiliedig ar dystiolaeth “gref iawn… ond ni chafodd tystiolaeth o’r fath” eu cyflwyno, meddai. 

Ac yn ôl un o swyddogion undeb athrawon NASUWT, Neil Butler, doedd athrawon erioed wedi galw am newidiadau i wyliau’r ysgol. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.