Newyddion S4C

Nigel Farage yn cymryd awenau Reform UK a’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol

03/06/2024
Nigel Farage

Mae Nigel Farage wedi cymryd awenau plaid Reform UK ac wedi cyhoeddi ei fod yn sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd cyn arweinydd plaid UKIP y bydd yn sefyll yn sedd Clacton yn Essex.

Mae Mr Farage wedi sefyll saith gwaith mewn etholiad, yn fwyaf diweddar yn South Thanet yn Swydd Caint yn Etholiad Cyffredinol 2015, ond aflwyddiannus fu bob ymgais hyd yma.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Llundain, dywedodd Mr Farage: “Er ei bod hi’n anodd, ni allaf siomi miliynau o gefnogwyr, fe fyddai’n anghywir.

“Felly rydw i wedi penderfynu fy mod wedi newid fy meddwl. Nid yw hynny bob amser yn arwydd o wendid, gallai fod yn arwydd o gryfder.

“Felly rydw i'n mynd i sefyll yn yr etholiad.”

Dywedodd Mr Farage y bydd yn lansio ei ymgeisyddiaeth ddydd Mawrth.

Richard Tice oedd arweinydd Reform UK yn flaenorol.

Wrth ymateb dywedodd dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Daisy Cooper: “Mae’r Blaid Geidwadol eisoes wedi troi yn ddrych i blaid Reform Nigel Farage.

“Rhaid i Rishi Sunak ddangos rhywfaint o asgwrn cefn a diystyru caniatáu i Farage ymuno â’r Blaid Geidwadol yn y dyfodol, gan gynnwys os caiff ei ethol i fod yn AS.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.