Newyddion S4C

Heddlu'r Gogledd yn cyfeirio eu hunain at archwilwyr wedi marwolaeth dyn

02/06/2024
a5156.png

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyfeirio eu hunain i swyddfa archwilwyr annibynnol wedi marwolaeth dyn yn Wrecsam.

Fe fydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu'n ymchwilio yn dilyn marwolaeth y dyn wedi iddo ddisgyn o bont yn yr ardal ddydd Sadwrn.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw ychydig wedi 15:30 yn sgil pryderon am ddiogelwch yr unigolyn ar ffordd gyswllt yr A5156. 

Fe gafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriaid.

Er bod swyddogion arbenigol yr heddlu wedi mynychu, fe ddisgynnodd y dyn o'r bont, a bu farw yn y fan a'r lle.

Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau i ddarganfod amgylchiadau llawn y digwyddiad ac mae'r A5156 yn parhau ar gau ar hyn o bryd.

Yn sgil natur y digwyddiad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi gwybod i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Mae teulu y dyn a'r Crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.