Newyddion S4C

Carchar y Parc: Nifer o garcharorion wedi eu hanafu yn dilyn 'anhrefn'

01/06/2024
Carchar y Parc

Mae nifer o garcharorion wedi eu hanafu yn dilyn yr hyn sydd yn cael ei ddisgrifio fel 'anhrefn' mewn carchar yn y de.

Mae Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn y penawdau'n ddiweddar ar ôl i 10 o garcharorion farw yno mewn cwta dri mis.

Yn ôl adroddiadau fore dydd Sadwrn, roedd tua 20 o garcharorion yn rhan o'r anhrefn nos Wener.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni sydd yn rhedeg y carchar, G4S: "Fe wnaeth staff yng Ngharchar Parc ddatrys yn gyflym ddau ddigwyddiad byr yn ymwneud â charcharorion ddydd Gwener, heb unrhyw swyddogion wedi'u hanafu. 

"Bydd y rhai oedd yn rhan o'r digwyddiad yn derbyn y cosbau cryfaf posib, gan gynnwys erlyniad troseddol.”

Y gred yw bod 20 o garcharorion yn rhan o un digwyddiad - gyda thîm arbenigol yn cael ei anfon i'r carchar i ddatrys y sefyllfa.

Roedd yr ail sefyllfa yn ymwneud â thri charcharor oedd angen gofal meddygol.

Cyffuriau

Ganol fis Mai, dywedodd y Gweinidog Carchardai, Edward Argar, bod pedwar o'r naw marwolaeth ddiweddar yn y Parc - sydd bellach wedi cynyddu i 10 - yn ymwneud â chyffuriau.

Ond dywedodd bod y carchar yn "cael ei redeg yn dda", ac na fyddai'n cael ei wladoli.

Daw hyn wedi i'r AS Ceidwadol Stephen Crabb ddweud ei fod wedi clywed honiad gan garcharor mai rhai o staff Carchar y Parc oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau i garcharorion yno.

"Mae cyffuriau ym mhobman yn y carchar - o ganabis i heroin, a'r hyn a elwir yn sbeis. Gall ychydig yn gyson fynd i mewn trwy ymweliadau, a rhai trwy ddrôn. 

"Ond gadewch i ni beidio â drysu'r mater - mae llawer mwy yn dod i mewn gan bobl a gyflogir yn y carchar."

Gwadu hynny wnaeth y Gweinidog, gan fynnu bod y mwyafrif o staff mewn carchardai'n onest a chyfrifol.

Diogelwch

Mewn ymateb i'r nifer diweddar o farwolaethau, dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc: “Diogelwch carcharorion a staff yw ein prif flaenoriaeth, ac mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi marw’n ddiweddar yng Ngharchar y Parc.

"Mae mwyafrif helaeth ein staff yn gweithio'n galed ac yn onest. Fel gyda phob carchar arall yn y wlad, rydym yn gweithio’n agos ac effeithiol gyda’r Heddlu a thîm gwrth-lygredd HMPPS i fynd i’r afael â’r nifer fach a all dorri’r rheolau.

“Rydyn ni’n defnyddio ystod o dactegau i fynd i’r afael â’r mynediad i gyffuriau a lleihau’r galw.

“Mae hyn yn cynnwys mesurau diogelwch cadarn ar gyfer staff, ymwelwyr a charcharorion yn ogystal â chymorth camddefnyddio sylweddau i’r rhai yn ein gofal.

“Mae sancsiynau llym yn cael eu gosod ar garcharorion y canfyddir eu bod yn ymwneud â chyffuriau, gan gynnwys eu cyfeirio at yr heddlu ar gyfer ymchwiliad troseddol.

“Mae profion cyffuriau gorfodol wedi’u targedu ac ar hap yn cael eu cynnal, fel sy’n wir ym mhob carchar yng Nghymru a Lloegr.”

Llun: G4S

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.