Y Democratiaid Rhyddfrydol am ostwng y gost o wylio pêl-droed ar deledu
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddai’n mynd i’r afael â’r gost o wylio pêl-droed, pe bai ei blaid mewn grym.
Fel rhan o’u maniffesto, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y bydden nhw’n mynd i’r afael â chostau y mae sianeli tanysgrifio yn ei godi ar bobl i wylio pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr ar y teledu, gan ganiatáu i bobl wylio 10 o gemau’r gynghrair am ddim.
Yn ôl y blaid, mae rhai cefnogwyr brwd yn y DU yn talu bron i £880 er mwyn gwylio tymor pêl-droed 10 mis o hyd ar y teledu.
“Nid oes modd i’r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr a chwaraewyr wylio Foden, Saka neu Palmer. Mae hynny’n drasiedi i’r byd chwaraeon,” meddai arweinydd y blaid, Syr Ed Davey.
Dywedodd fod yna angen i “gael gwared â’r paywall a rhoi pêl-droed yr Uwch Gynghrair yn ôl i’r wlad,” a’i fod hefyd yn bwriadau mynd i’r afael â chostau tocynnau er mwyn wylio’r pêl-droed.
Dywedodd hefyd bod clybiau’r Uwch Gynghrair, ar y cyd â darlledwyr, yn rhannu'r nod o geisio gwneud gymaint o arian ag y gallant – a bod y Ceidwadwyr wedi galluogi hynny.
Roedd gan Lywodraeth y DU cynlluniau ar gyfer creu rheoleiddiwr pêl-droed annibynnol, a byddai hynny wedi golygu bod gan y corff yr hawl i gyfrannu at benderfyniadau ynglŷn â dosbarthu refeniw darlledu.
Byddai’r corff hefyd wedi golygu y byddai clybiau pêl-droed yn gwneud “penderfyniadau ariannol synhwyrol,” yn ôl adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
Ond ni chafodd y corff ei sefydlu’n swyddogol gan y Bil Llywodraethu Pêl-droed, cyn i'r Senedd gael ei diddymu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf.