Parc y Strade yn Llanelli i ail-agor fel gwesty?
Mi allai gwesty yn Llanelli ail-agor mor fuan ag wythnos nesa' ar ôl i'r Swyddfa Gartre roi'r gorau i gynlluniau i osod cannoedd o geiswyr lloches yno.
Fe ddaeth cynlluniau'r Swyddfa Gartref i roi lloches i 241 o bobl yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli i ben fis Hydref diwethaf yn dilyn misoedd o brotestiadau a gwrthwynebiad gan gyngor Sir Gaerfyrddin.
Cafodd pob digwyddiad, gan gynnwys priodasau, eu canslo a chafodd 95 aelod o staff eu diswyddo ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi'r cynllun lloches.
Roedd protestwyr yn galw ar weld y gwesty yn “dychwelyd i fod yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau a phriodasau.”
Mae'n debyg fod gwaith adnewyddu wedi bod yn digwydd yng Ngwesty Parc y Strade, a mae modd archebu ystafelloedd ar-lein ar gyfer wythnos gyntaf mis Mehefin.