Newyddion S4C

Trump yn dweud ei fod am apelio yn erbyn euogfarnau llys yn Efrog Newydd

31/05/2024

Trump yn dweud ei fod am apelio yn erbyn euogfarnau llys yn Efrog Newydd

Mae cyn-arlywydd America, Donald Trump wedi dweud ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniadau yn ei erbyn wedi i reithgor mewn achos cyfreithiol hanesyddol yn Efrog Newydd benderfynu ei fod yn euog o 34 cyhuddiad troseddol.

Donald Trump oedd y cyn-arlywydd cyntaf i wynebu achos llys troseddol, ac ef yw'r cyntaf i gael ei ddyfarnu'n euog o drosedd yn hanes yr UDA.

Roedd y 12 aelod o'r rheithgor wedi bod yn ystyried y dystiolaeth yn erbyn Mr Trump, 77 oed, ers deuddydd.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf.

Fe ddywedodd cyfreithwyr Trump nos Iau y byddan nhw’n apelio yn erbyn yr holl euogfarnau yn erbyn y cyn-arlywydd.

“Mae pob agwedd yn yr achos hwn yn destun apêl,” meddai ei gyfreithiwr Will Scharf wrth wasanaeth newyddion Fox News.

Stormy Daniels

Roedd Trump wedi ei gyhuddo o guddio taliadau gan ei gyn-gyfreithiwr gyda'r bwriad o dawelu honiadau'r cyn-seren bornograffig Stormy Daniels ychydig cyn etholiad arlywyddol y wlad yn 2016.

Roedd hi wedi honni ei bod wedi cael perthynas rywiol gyda Donald Trump. 

Roedd yntau wedi gwadu'r honiad hwnnw, gan ddadlau mai cynllwyn gwleidyddol yn ei erbyn oedd yr achos llys.

Yn dilyn dyfarniad y rheithgor, dywedodd Trump "bod hyn yn bell o fod yn ddiwedd ar y mater", ac y byddai'n ymladd hyd y diwedd.

Ymgyrch arlywyddol

Er nad oes dim yn ei atal rhag parhau gyda'i ymgyrch arlywyddol yn etholiad y wlad ar ddiwedd y flwyddyn, fe fydd yr euogfarn yn Efrog Newydd yn rhoi gogwydd gwahanol iawn ar ei ymgyrch o hyn allan.

Fe fyddai'n gallu parhau i gael ei ethol yn arlywydd os byddai'n fuddugol yn erbyn Joe Biden, er yr hyn sydd wedi digwydd yn Efrog Newydd.

Roedd ei agwedd yn ystod yr achos wedi bod yn herfeiddiol, ond fe newidiodd hynny tra'r oedd 12 aelod y rheithgor yn ystyried y cyhuddiadau.

Mae pob un o'r 34 cyhuddiad yn gallu golygu pedair blynedd o garchar yr un i Mr Trump.

Ond mae'n annhebygol y bydd yn cael ei garcharu gan mai dyma'r tro cyntaf iddo droseddu ac nid oedd hwn yn achos oedd yn cynnwys elfen o drais.

Mae'n debygol y bydd yn derbyn dirwy sylweddol wedi'r euogfarn, ond mae'r penderfyniad am union gosb Mr Trump yn nwylo'r barnwr Ustus Juan Merchan.

'Neb uwchlaw'r gyfraith'

Mae llefarydd ar ran ymgyrch arlywyddol Joe Biden wedi ymateb i'r newyddion ddydd Iau, gan ysgrifennu mewn datganiad: “Yn Efrog Newydd heddiw, gwelsom nad oes neb uwchlaw’r gyfraith.

“Mae Donald Trump bob amser wedi credu yn anghywir na fyddai byth yn wynebu canlyniadau am dorri’r gyfraith er ei fudd personol ei hun,” meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu ymgyrch Biden-Harris, Michael Tyler.

Aeth ymlaen i annog pobl i bleidleisio yn yr etholiad ar 5 Tachwedd: "Nid yw dyfarniad heddiw yn newid y ffaith bod pobl America yn wynebu realiti syml. 

"Dim ond un ffordd sydd o hyd i gadw Donald Trump allan o'r Swyddfa Hirgron: drwy'r blwch pleidleisio. 

"Troseddwr euog neu beidio, Trump fydd yr enwebai Gweriniaethol ar gyfer yr arlywyddiaeth."


 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.