Newyddion S4C

Ydy cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realistig?

30/05/2024

Ydy cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realistig?

Teilyngdod ar lwyfan yr Urdd. Isabella Brown o'r Wyddgrug yn cipio Medal Bobi Jones eleni. Gwobr i ddysgwr rhwng 19 a 25 oed sy'n dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.

"Actores ydw i felly mae siarad Cymraeg wedi agor cymaint o ddrysau i mi. Yn ystod y llynedd ac eleni dw i wedi gweithio yn y byd celfyddydau Cymraeg.

Dw i'n dod yn ol i'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Gorffennaf i wneud sioe cerdd Cymraeg newydd o'r enw Gwlad, Gwlad, felly allwn ni ddim wedi dychmygu hwn dwy flynedd yn ol.

"Dyma fi'n perfformio yn Gymraeg, dathlu yn Gymraeg a canu yn Gymraeg. Mae'n gwefreiddiol!" 

Dyma ddyfodol y Gymraeg yng Nghymru ond yn ol enillydd y llynedd does dim digon yn cael ei wneud i ddenu siaradwyr newydd. Mae hynny'n golygu nad yw'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn un realistig.

"Dw i ddim yn meddwl rydyn ni'n gwneud digon ar hyn o bryd. Mae push mawr gyda dysgu Cymraeg i oedolion, sy'n wych ond dw i'n meddwl mae dal gormod o ffocws ar bobl sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf i ddefnyddio'r iaith.

"Ydi, mae'n rili bwysig i ddefnyddio'r iaith ond dw i'n meddwl bod dysgwyr angen cael eu hannog. Os nad ydym yn rhoi digon o ffocws ohonyn nhw, does dim ffordd ymlaen."

Ond cynnydd sydd i'w weld yn y galw i ddysgu'r iaith yn ol Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg.

"Yr hyn 'dyn ni'n gweld yn ein sector ni ydy twf aruthrol. Mae newid wedi bod yn y gynulleidfa. 'Dyn ni wedi profi twf yn y bobl ifanc sy'n dysgu Cymraeg.

"Mae 9% yn fwy o bobl yn dysgu yn yr ystod oedran o 16 i 24 oed. Yn sicr, mae'r galw o ran dysgu Cymraeg yn rhyfeddol o uchel. Mae 'na fwrlwm a mwynhad. Mae gennym ni ddarlun cadarnhaol o'r sector dysgu Cymraeg."

Oes digon yn cael ei wneud, felly, i ddenu siaradwyr newydd?

"Unwaith mae o'n cwl, mae o'n hawdd. Ar y funud, mae gormod o deledu Saesneg yn cael ei wylio a YouTube. Dw i ddim yn gweld digon o bethau YouTube Cymraeg."

"Dw i'n meddwl bod o'n anodd gan ein bod ni ar 500,000 rwan. Dw i'n meddwl bydd hi'n anodd cyrraedd y targed. Mae angen mwy rhoi mwy o arian mewn i gyrraedd y targed."

"Rygbi ydw i. Fi 'di bod fan hyn heddiw a gweld bod Rob Page wedi bod yma a gweld be' mae Undeb Pel-droed Cymru'n wneud a gweld bod nhw'n treial sefydlu amgueddfa pel-droed Cymru. A chi'n gweld bod 'da ni, ch'mod, Rob McElhenney a Ryan Reynolds sy'n ymdrechu i ymledu'r iaith.

"Maen nhw ddim yn gorfod gwneud e ond maen nhw'n gwneud e achos maen nhw'n parchu'n traddodiadau ni."

Gyda 26 mlynedd i fynd cyn 2050 a'r cyfrifiad diwethaf yn awgrymu bod 538,000 yn siarad yr iaith mae 'na siwrnai hir i fynd er mwyn cyrraedd y nod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.