Cyfeillgarwch rhwng y glowyr oedd yn streicio a ymgyrchwyr dros hawliau pobl hoyw 40 mlynedd yn ddiweddarach
Cyfeillgarwch rhwng y glowyr oedd yn streicio a ymgyrchwyr dros hawliau pobl hoyw 40 mlynedd yn ddiweddarach
We have arrived!
Bedwar deg mlynedd ers Streic y Glowyr mae'r cyfeillgarwch yn parhau. Mamau o gymoedd Dulais, Nedd a phen ucha'r Tawe yn cwrdd a chriw newidiodd eu bywydau.
Yn anterth y Streic yn '84 gyda bwyd yn brin dewisodd y mamau dderbyn arian gan ymgyrchwyr dros hawliau pobl hoyw o Lundain.
"Pan gaethon ni gyfle i ffurfioli'r berthynas bod nhw'n mynd i godi arian ar ein rhan ni a bod ni'n derbyn e a bod e'n mynd i helpu teuluoedd o dan pwysau ofnadwy, o'n i, yn bersonol, yn bendant bod rhaid trin y grwp yma yn union fel o'n ni wedi trin pob grwp arall."
Cafodd aelodau'r grwp Lesbiaid A Hoywon Yn Cefnogi'r Glowyr eu gwahodd i ymweld a Neuadd Les Onllwyn ger Blaendulais. Yn disgwyl rhagfarn, maen nhw'n cofio'r croeso.
"When we walked into that Miners' Welfare Hall which was crowded with people - there was about 300 in there these queers walked in and the conversation dropped.
"Within seconds the whole hall stood up and gave us a standing ovation. It has to be the most amazing moment in my life forever, that one."
Fe dalwyd y gymwynas nol ychydig fisoedd wedyn gyda'r glowyr yn ymuno yng ngorymdaith Pride Llundain ym 1985.
Cam sylweddol tuag newid agweddau o fewn gwleidyddiaeth.
Aeth Sian James ymlaen i fod yn Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe. Mae'n teimlo braint a balchder ei bod hi yn San Steffan pan gafodd ddeddfwriaeth i ganiatau priodasau hoyw sel bendith yn Nhy'r Cyffredin.
"Y ffaith bod y peth sbesial hyn wedi digwydd yn ein cymoedd ni, bod yr Undebau wedi bod mor gefnogol. Bod y Blaid Lafur, a fe ddaeth y Blaid Lafur i bwer ar yr adeg 'ny, yn 1997.
"Pobl yn Brixton a Crystal Palace a llefydd tebyg wedi casglu arian ar ein rhan ni. Nawr, mae'n amser i ni wrando ar beth o'n nhw'n dweud ac ymgyrchu dros nhw."
Nid dim ond y gyfraith gafodd ei newid. Daeth yr ymweliad cyntaf a'r Onllwyn yn destun i ffilm Pride yn 2014. Mae aelodau'r grwpiau yn cydnabod i'w profiadau ganol yr '80a .adael ei hol ar a newid eu bywydau.
Roedd Jane Francis-Headon yn 16 oed adeg y Streic a'i mam yn ysgrifenyddes grwp Cwmdulais.
"Dw i'n gallu sefyll i fyny a dweud beth dw i angen dweud wrth bobl. Mae pobl yn moyn clywed a gwrando ac mae hwnna'n werth rhywbeth.
"Dyna sut mae fe wedi newid fy mywyd i. Hefyd, dw i wedi priodi menyw. Mae gwraig 'da fi a mae hwnna yn rhywbeth arall."
Solidariaeth annisgwyl. Selio cyfeillgarwch rhwng dwy gymuned o'dd yn profi heriau a gwrthwynebiad. Solidariaeth a chyfeillgarwch sy'n pontio'r degawdau.