Carcharu gŵr a gwraig o'r de am ffoi o fwytai heb dalu
Mae cwpl priod wedi eu carcharu ar ôl sawl digwyddiad o beidio â thalu biliau mewn bwytai a dwyn o siopau yn ne Cymru.
Cafodd Ann McDonagh, 39 oed o Sandfields, Port Talbot, ei chyhuddo o bum achos o dwyll a phedwar achos o ddwyn.
Cafodd Bernard McDonagh, 41 oed o Sandfields, Port Talbot, ei gyhuddo o bum achos o dwyll.
Plediodd y ddau yn euog i'r cyhuddiadau yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher.
Mae Ann McDonagh wedi cael ei dedfrydu i flwyddyn yn y carchar ac mae Bernard McDonagh wedi cael ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar.
Ymhlith y bwytai a gafodd eu heffeithio roedd Bella Ciao a River House yn Abertawe, La Casona yn Sgiwen, Golden Fortune ym Mhort Talbot ac Isabella’s ym Mhorthcawl.
Fe gyfaddefodd Ann McDonagh hefyd i’r cyhuddiadau o ddwyn o siopau Tommy Hilfiger a Sainsbury’s ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Tesco Extra, Abertawe, yn ogystal â rhwystro heddwas wrth gyflawni ei ddyletswydd yng Ngorsaf Heddlu Heol y Frenhines, Pen-y-bont ar Ogwr.
'Biliau enfawr'
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Hedley nad oedd y ddau yn credu bod y gyfraith yn berthnasol iddynt.
“Roedd troseddu cyson Ann a Bernard McDonagh yn gwbl briodol wedi dal sylw canran fawr o’r cyhoedd lleol.
"Mae’n wych gweld bod cyfiawnder bellach wedi’i roi ar ffurf y dedfrydau hyn a diolchwn i’r aelodau hynny o’r cyhoedd a gynorthwyodd gyda’r ymchwiliad.
“Fe wnaethon nhw godi biliau enfawr mewn bwytai yn fwriadol nad oedd ganddyn nhw unrhyw fwriad i’w talu.
"Cafodd hyn effaith sylweddol ar y safleoedd a dargedwyd ganddynt, ac roedd un ohonynt newydd agor ar y pryd.
“Roedd Ann a Bernard McDonagh yn amlwg yn teimlo nad oedd y gyfraith yn berthnasol iddyn nhw."
Llun: Heddlu De Cymru