Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Prif Gystadlaethau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

29/05/2024

Cyhoeddi enillwyr Prif Gystadlaethau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

Cyflwynwyd Medalau i Isabella Colby Browne a Melody Griffiths, enillwyr Prif Gystadlaethau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, dydd Mercher.

Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Melody Griffiths o Wrecsam.

Nod cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac sy’n ymfalchïo mewn Cymreictod. Rhoddwyd nifer o dasgau amrywiol ac ymarferol i’r holl ymgeiswyr ar y Maes heddiw. 

Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Karina Wyn Davis a Cyril Jones. Noddwyd y ddefod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd yn noddi gweithgareddau penodol i ddysgwyr ar hyn y maes heddiw, ar ddiwrnod dathlu dysgwyr yr Urdd.

Medal Bobi Jones

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Ganwyd Isabella yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi’n 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores. Fe berfformiodd gwaith buddugol Alys Hedd yn seremoni’r Fedal Ddrama ddoe.

Meddai: “Nes i ddechrau dysgu Cymraeg bron i ddwy flynedd yn ôl, diolch i fy ffrind gorau Caitlin, sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Nes i sylwi pa mor arbennig yw e i fod yn Gymraeg, mae hi’n iaith mor brydferth, ac os dwi’n byw yma, dylwn i siarad yr iaith. Fy nghyfrifoldeb i yw hi i barchu iaith a diwylliant fy ngwlad.”

“Mae siarad Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi yn y byd celfyddydau yng Nghymru. Rwy’n teimlo ymdeimlad cryfach o hunaniaeth o fewn Cymru, ac rwyf mor falch o fod yn rhan o’r diwylliant a’r gymuned. Rwy’n teimlo y gallaf ddangos fy mharch at y bobl a’r diwylliant sydd yma, drwy ddysgu iaith y wlad.”

Dyfarnwyd Emma Grigorian o Gaerdydd yn ail Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.

Medal y Dysgwyr

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 mlwydd oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

Allan o 6 ymgeisydd, Melody Griffiths, 17 oed sydd yn ddisgybl yng Ngholeg Cambria ddaeth i’r brig. Roedd y tasgau a gyflwynwyd i’r cystadleuwyr yn cynnwys tasg ysgrifenedig i ddod i nabod y cystadleuwyr yn well, cyfweliad gyda’r beirniaid, yn ogystal â sesiwn cwestiwn ag ateb gyda Llywydd y Dydd, Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C.

Mae Melody wedi dysgu’r iaith gan ei athrawon yn y coleg, a theulu ei chariad sy’n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf ac yn rhoi cyfle gwych iddi hi ymarfer a datblygu ei sgiliau.

Meddai Melody: “Ers dysgu Cymraeg, dwi’n teimlo’n falch i fod yn siaradwr newydd, dwi’n defnyddio’r iaith bob dydd. Dwi’n rhedeg clwb dysgu Cymraeg wythnosol i fyfyrwyr y Coleg ac yn gwneud gwaith cyfieithu gwirfoddol yn y gymuned.

“Dwi’n credu bod o’n bwysig i gadw’r iaith yn fyw, ag yn bresennol yn ein bywydau. Mae’n rhywbeth dwi wedi gorfod rhoi i’w ddysgu, ond mae’n werthfawr. Dwi’n teimlo fod yr iaith yn ffordd dda i gysylltu fy hun gyda’r diwylliant, hanes, a phawb arall yng Nghymru.

“Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio bod yn athrawes Gymraeg, dwi eisiau ysbrydoli plant a darparu'r un math o gyfleoedd Cymraeg â’r hyn rydw i wedi ei gael.”

Dyfarnwyd Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail a Alex McLean o’r Wyddgrug yn drydydd.

Rhoddir Medal Bobi Jones gan Fenter Iaith Maldwyn a Medal y Dysgwyr gan Gyngor Sir Powys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.