Newyddion S4C

Dim Aaron Ramsey wrth i Rob Page gyhoeddi carfan Cymru

29/05/2024

Dim Aaron Ramsey wrth i Rob Page gyhoeddi carfan Cymru

Dyw capten Cymru, Aaron Ramsey heb ei gynnwys wrth i’r hyfforddwr Rob Page gyhoeddi carfan 25-chwaraewr ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ddydd Mercher.

Bydd Cymru yn chwarae Gibraltar yn yr Algarve, Portiwgal (Dydd Iau 6 Mehefin) a Slofacia yn Trnava (Dydd Sul 9 Mehefin).

Dyw Aaron Ramsey, sy’n 33 oed, heb chwarae yn gyson i Gaerdydd yn ystod tymor 2023-24 a dim ond ddwywaith ymddangosodd yn ystod ymgyrch ragbrofol Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Ond mae yna wynebau newydd wrth i’r amddiffynwr Fin Stevens, chwaraewr canol cae Charlie Crew â’r ymosodwr Lewis Koumas fod yn rhan o’r garfan am y tro gyntaf. 

Mae Stevens wedi chwarae i’r tîm D21 17 o weithiau ac wedi dathlu dyrchafiad i’r Bencampwriaeth EFl gydag Oxford United y mis yma, tra bod Charlie Crew wedi bod yn gapten ar Gymru ym mhencampwriaethl UEFA EWRO D17 y llynedd.

Fe wnaeth ymosodwr Lerpwl Lewis Koumas sgorio yn ei gêm gyntaf i’r clwb ym mis Chwefror, mewn buddugoliaeth yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Southampton.

Dywedodd Rob Page ei fod yn gweld y gemau fel cyfle i aelodau iau’r garfan gael profiad gwerthfawr cyn i ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ddechrau ym mis Medi, lle bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Twrci a Montenegro. 

Fe wnaeth Cymru wynebu Gibraltar ddiwethaf ym mis Hydref mewn buddugoliaeth 4-0 ar y Cae Ras yn Wrecsam. 

Y tro diwethaf wnaeth Cymru a Slofacia wynebu ei gilydd, hefyd yn Trnava, fe wnaeth Kieffer Moore sgorio mewn gêm gyfartal 1-1.

Cymru: Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Tom KING (Wolverhampton Wanderers), Connor ROBERTS (Leeds United- Ar fenthyg o Burnley), Fin STEVENS (Oxford United- Ar fenthyg o Brentford), Joe RODON (Leeds United- Ar fenthyg o Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (Bournemouth), Ben CABANGO (Abertawe), Joe LOW (Wycombe Wanderers), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Jay DASILVA (Coventry City), Ethan AMPADU (Leeds United), Jordan JAMES (Birmingham City), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Charlie SAVAGE (Reading), Charlie CREW (Leeds United), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Wes BURNS (Ipswich Town), Rubin COLWILL (Caerdydd), Daniel JAMES (Leeds United), Rabbi MATONDO (Rangers), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Kieffer MOORE (Ipswich Town- Ar fenthyg o Bournemouth), Liam CULLEN (Abertawe), Lewis KOUMAS (Liverpool).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.